Roedd ychydig o waith cerdded o St Stephens at yr eglwys gadeiriol, ond roedd yn gyfle i weld tipyn mwy o’r ddinas. Mae’r ddinas yn un hynafol gyda’i dechreuadau cyn y nawfed ganrif, ond daeth ei thwf mawr yn dilyn concwest y Normaniaid a throi’r ddinas yn ganolfan filwrol ac eglwysig. Er bod nifer yr [...]
Efallai y dylwn ddweud taw fy hoff gydymaith i ar gyfer teithio yn Lloegr yw’r Blue guide: England gan Ian Ousby. Bydda i’n defnyddio’r degfed argraffiad (1989) a brynais yn 1992. Dwi wedi cael gwerth fy arian o’r gyfrol. Yn y lle cyntaf bydda i’n ei defnyddio fel llawlyfr ymarferol pan yn ymweld â lle [...]