Gwyliau yn Norwich 2008-08-19 (9)

Bem vindo a Thetford Norfolk!

Siop Bortwgeaidd, Thetford

Mae ‘na un peth arall wnaeth fy nharo i am Thetford, roeddwn i’n clywed pobol yn siarad Portwgeeg dros y dref i gyd. Wrth gerdded yn ôl i’r lle roedd y car wedi’i barcio dyma basio siop a oedd yn arbenigo mewn pethau Portwgeaidd. Enw’r siop oedd O Celeiro ac roedd cylchgronau Portwgeeg yn y ffenest ac wrth basio heibio ddwywaith dim ond Portwgeeg a glywais i yn cael ei siarad. Diwedd y 1950au ychydig dros 5,000 o bobl oedd yn byw yn Thetford, ond erbyn dechrau’r 2000au roedd hynny wedi cynyddu i ryw 20,000. O’r boblogaeth hynny mae rhyw 30% o darddiad Portwgeaidd gyda rhyw 6,000 yn siarad Portwgeeg fel mamiaith. Mae mudo yn rhan o fywyd economaidd Portiwgal ers degawdau ac mae’n debyg fod Portiwgaliaid wedi bod yn dod i Norfolk ac i ardal Thetford ers i Bortiwgal ymuno â Gymuned Ewropeaidd yn 1986. Daeth yr hanes am bresenoldeb y Portiwgaliaid yn newyddion yn 2004 pan bu gwrthdaro yn y dref, yn benodol yn nhafarn y Red Lion, wedi i Bortiwgal guro Lloegr yn Ewro 2004 a’u taflu nhw allan o’r gystadleuaeth. Ceir holl hanes bywyd Portwgeaidd Thetford ar y wefan Portuguese Thetford. Mae’n fyd rhyfedd!

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>