Gwyliau yn Norwich 2008-08-19 (10)

Abaty WymondhamMae’n rhyfedd faint o bethau y gall dyn eu gwneud mewn un diwrnod sy’n dweud nad ydw i wedi gorffen gyda hanes y diwrnod cyntaf o’r gwyliau eto. Wrth deithio yn ôl o Thetford ar yr A11 dyma llygad RO yn cael ei dynnu gan enw lle nad oeddwn i erioed wedi clywed amdano o’r blaen, sef Wymondham (caiff yr enw ei ynganu fel ‘Windam’). Roedd ein map OS Travel Map Tour 20 Norfolk yn labelu’r dref fel Picturesque Town, felly roedd yn rhaid dargyfeirio i weld pam ei bod yn haeddu’r fath ddisgrifiad.

Efallai taw un rheswm dros hynny oedd y groes yn y farchnad gydag adeilad mewn pren o’i chwmpas i’w hamddiffyn rhag y tywydd a godwyd yn 1616. Rheswm arall yw’r nifer o dai cynnar pren sydd yn y dref. Ond efallai taw’r rheswm pennaf yw Eglwys Abaty S Mair a S Alban sydd ychydig allan o ganol y dref. Roedd iddi ddau dŵr trawiadol iawn ac roedd un ohonynt yn adfail. Roedd hi’n agosáu am 5.00pm wrth inni gyrraedd y fynwent; dyma oedd adeg cau arferol yr adeilad. Ond wrth inni sefyll yno yn edrych yn drist dyma’r rheithor yn dod heibio ac yn ein gwahodd i mewn.

Market Cross, Wymondham

Fel mae’n digwydd roedd y rheithor, y ciwrad, a dau arall wedi dod ynghyd ar gyfer gwasanaeth yr hwyrol weddi. Wrth ein gwahodd ni i mewn roedd hynny’n dyblu’r gynulleidfa! Wrth eistedd yno yn gwrando ar y gwasanaeth rhaid imi gyfaddef i’r meddwl grwydro wrth edrych ar eglwys sy’n cael ei disgrifio gan y Blue Guide fel “one of the finest churches in Norfolk”. Mae hynny’n dipyn o ddweud pan fo rhywun yn ystyried bod cannoedd o eglwysi canol oesol yn y sir. Dylai unrhyw un sy’n ymweld â’r ardal hon wneud ei orau i alw heibio i’r eglwys yn Wymondham, gan adael rhagor o amser na ninnau i’w gwerthfawrogi’n llawn.

Ar ddiwedd y gwasanaeth cawsom air gyda’r person a’i giwrad. Roedd y ddau â chysylltiadau â Chymru – yntau gyda Chaerfyrddin a hithau yn ardal Caerdydd.

Abaty Wymondham

Wedi hyn i gyd roedd gennym ddigon o amser i ddychwelyd i The Village a chymryd bws i fewn i ganol dinas Norwich lle gawsom ni swper mewn café-bar o’r enw Henry’s – roedd yn iawn. Yna ymlaen i dafarn cyn dychwelyd ar y bws i’r Village ac i’r gwely.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>