Gwyliau yn Norwich 2008-09-19 (8)
Roedd ‘na un rheswm arall pwysig dros ymweld â Thetford. Er gwaethaf y ffaith fod y dref ddegau o filltiroedd o’r môr dyma Walmington-on-Sea y gyfres deledu comedi sefyllfa Dad’s army. O 1968 tan ganol y 1970au ffilmiwyd degau o rifynnau o’r gyfres boblogaidd yma. I nodi hyn, rhywbeth sy’n denu llawer mwy o ymwelwyr i’r dref na chofeb Tom Paine, mae’r bwrdd croeso lleol wedi cyhoeddi pamffled i alluogi twristiaid i ymweld â lleoliadau o gwmpas y dref lle ffilmiwyd y gyfres.
Bodlonodd y tri ohonom ni ar fynd i weld y Guidhall lle ffilmiwyd rhifyn yn 1972, ‘Time on my hands’, lle’r oedd peilot Almaenaidd yn hongian o’i barasiwt o dŵr cloc Neuadd y Dref yn Walmington. Yn y rhifyn gwelir y platŵn yn mynd i mewn i’r neuadd i ddringo’r tŵr er mwyn achub y peilot.
Yn anffodus ni chawsom gyfle i alw heibio i Nether Row yn Thetford lleoliad ffilmio ‘Man hunt’ yn 1969. Mae hon yn stori wych am Preifat Walker sydd wedi dod o hyd i barasiwt ac wedi ei droi yn ddwsin o nicers ond mae’n methu’n deg â chofio a yw’r nicers yn rhai gwynion neu hufen – golyga un lliw mae parasiwt Prydeinig oedd, y lliw arall taw parasiwt Almaenaidd oedd. Felly mae’n rhaid i Sarsiant Wilson, Capten Mainwaring a Walker fynd o ddrws i ddrws yn gofyn a yw gwraig y tŷ adref ac os yw hi am gael gweld ei nicers. Dwi’n chwerthin ond meddwl am yr olygfa nawr.
Gyda llaw i’r rhai sydd â diddordeb ffurfiwyd cymdeithas Dad’s Army Appreciation Society yn 1993 ac erbyn hyn mae ganddi dros 1500 o aelodau.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael