Gwyliau yn Norwich 2008-08-19 (5)

Wedi sefyll ar lan beddau Tom a Kitty ym mynwent eglwys Burston a chinio blasus iawn yn nhafarn y Burston Crown, roeddem yn barod am ail ddôs o radicaliaeth. Y tro hwn roedd yn rhaid inni ymweld â thref Thetford ar lan afon Ouse Fechan, rhyw hanner awr o Burston. Yr hyn oedd yn ein denu ni i Thetford oedd taw dyma lle cafodd Tom Paine ei eni a’i fagu, ond fe ddaethon ni o hyd i lawer mwy o bethau yn Thetford nad oedden ni wedi disgwyl eu gweld.

Eglwys S Cuthbert, Thetford

Ers yn 1960au datblygwyd Thetford yn fawr iawn a hynny heb lawer o gydymdeimlad gyda’i lle mewn hanes. Roedd y dref yn brif ddinas i frenhiniaeth Dwyrain Anglia ac i’w hesgobion. Hyd nes i’r Normaniaid symud yr esgobion symud i Norwich yn 1094 i fod yn agos at y castell yr oedden nhw wedi’i chodi yn 1075. O fewn dwy flynedd i symud yr esgob i Norwich dechreuwyd ar godi’r eglwys gadeiriol yno.

Mae ychydig o olion pwysigrwydd Thetford i’w weld o gwmpas o hyd, ond nid yw mor hawdd â hynny i’w weld.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>