Nid heddiw oedd y diwrnod inni fynd i’r afael â’r awdurdodau oherwydd yr oeddem yn bwriadu ymweld â dau le yn Norfolk gyda chysylltiadau pwysig gyda mudiadau radicalaidd ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r ugeinfed ganrif.
Dylai’r lle cyntaf fod yn llawer enwocach, sef pentref Burston, ger Diss, rhyw 35km i’r de o Norwich. Yn ôl y broliant dyma lle bu’r streic hiraf mewn hanes: o 1914 tan 1939. Yr hyn sy’n hynod am y streic hon yw taw streic gan blant ysgol oedd hi ac mae’r hanes yn wirioneddol arwrol ac fe ddylai fod yn ysbrydoliaeth i bawb (o ryw duedd arbennig!) sy’n ei chlywed.
Mae’n debyg y bydd y cofnod yma yn weddol hir, ond mae’n werth adrodd yr hanes er mwyn i ddarllenwyr y blog gael eu hysbrydoli fel y ces i gan streic plant ysgol Burston.
Mae’n stori am ormes ar weithwyr cefn gwlad, gweision a morynion ffermydd cefn gwlad Norfolk, yn cychwyn ar y daith tuag at gyfiawnder a democratiaeth; a hynny wrth sefyll gyda’i gilydd yn erbyn gormes. Mae’r hanes yn cychwyn gyda dau athro yn dod i ysgol gynradd sirol Burston, sef gŵr a gwraig – Tom a Kitty Higdon. Roedd Tom a Kitty yn Gristnogion Sosialaidd ac yn egwyddorol i’r eithaf. Roedden nhw wedi gwneud eu marc mewn ysgol arall cyn dod i Burston. Yno roedden nhw wedi cwyno am y ffordd nad oedd rheolwyr yr ysgol yn gofalu am yr adeilad nac am y plant. Roedd yr ysgol ei hun yn oer ac yn beryg i iechyd y plant yn ôl Tom a Kitty yn ddifrifol, ac roedd yr arfer o fynd â phlant o’r ysgol i weithio ar y ffermydd lle’r oedd eu rhieni yn weision hefyd yn amharu ar addysg y plant. Yn gefndir i’r cyfan oedd tlodi affwysol y gweithwyr fferm a’u teuluoedd. Roedd y cyfan yn corddi Tom a Kitty.
Wrth gwrs doedd dim llawer o sylw yn cael eu gwneud o’u cwynion gan taw’r ffermwyr cefnog a oedd am wasanaeth y plant oedd yn llywodraethu’r ysgolion hyn. Doedd pethau ddim yn dda rhwng yr athrawon a’r llywodraethwyr ac fe gafodd y cwpl eu symud i ysgol arall, sef Burston.
Ar yr un pryd yn gywir bron, fe apwyntiwyd rheithor newydd, y Parchg Charles Tucker Eland, i blwyf Burston. Credai’r rheithor newydd yn yr hen drefn o ddangos parch tuag ato ef ac at ddynion pwysig y plwyf, sef y ffermwyr cefnog. Wrth gwrs roedd ychydig yn debyg i’r Brenin Cnut yn ceisio atall y llanw, gan fod person y plwyf wedi colli grym gwleidyddol gyda sefydlu cyngor plwyfi sifil ddiwedd y G19. Doedd hynny ddim yn poeni dim ar y Parchg Charles Eland fodd bynnag gan taw ef a’i gyfeillion oedd aelodau’r cyngor plwyf sifil yn Burston ac yn llywodraethwyr yr ysgol. Newidiodd pethau yn 1913 pan safodd Tom Higdon a chael ei ethol ar dop y rhestr i’r cyngor, a’r rheithor druan ar waelod y rhestr ac heb sedd.
Doedd e ddim yn hapus, a doedd ei gyfeillion ddim yn hapus. Roedden nhw yn dal i fod yn llywodraethwyr yr ysgol ac fe ddefnyddion nhw hynny er mwyn ceisio dial ar Tom a Kitty. Arweiniodd hyn at wrthdaro cyson rhwng yr athrawon a’r llywodraethwyr. Yn y pen draw fe gafodd Tom a Kitty Higdon eu diswyddo. Ond ar ddiwrnod eu diswyddiad, 1 Ebrill 1914, fe drefnodd un o’i disgyblion 13 mlwydd oed – Violet Potter – streic o gefnogaeth i’r athrawon o blith y disgyblion. Roedd 66 o’r 72 wedi cytuno i fynd ar streic i ddangos eu cefnogaeth. Martsiodd y 66 o gwmpas y plwyf i gyfeiliant concertina Violet ac yn chwifio baneri. Roedd y baneri hynny yn datgan “We want out teachers back” ac yn mynnu “Justice”.
Dyma fartsio eto yn y prynhawn ac yna fe ddechreuodd Tom a Kitty gynnal dosbarthiadau i’r streicwyr ar y grîn yng nghanol y pentref. A dyma gychwyn yr Ysgol Streic, Burston Strike School. Ceisiodd yr awdurdodau erlyn y rheini am beidio â danfon eu plant i ysgol y cyngor. Cawsant eu dirwyo, ond erbyn hyn roedd achos Burston yn adnabyddus ym mhlith y mudiad llafur ac fe gafwyd cefnogaeth gref gan undebau a mudiadau llafur eraill, ac wrth gwrs y swffragetiaid.
Erbyn 1917 roedd digon o arian wedi’i gasglu i godi adeilad i’r ysgol reit yng nghanol y pentref ac mae’r adeilad yno tan heddiw. Parodd yr ysgol hyd at 1939 a marwolaeth Tom Higdon. Erbyn hynny roedd Kitty yn rhy hen i gadw i fynd ar ei phen ei hun ac fe gaewyd yr ysgol.
Am flynyddoedd aeth y stori yn angof y tu fas i’r cylch o gyn-ddisgyblion a thrigolion yr ardal ac undebwyr pybyr. Ond bellach mae’r ysgol wedi’i hadnewyddu ac yn gofeb i ddewrder plant a rhieni yn herio’r drefn ac yn llwyddo i oresgyn y drefn honno trwy sefyll gyda’i gilydd. Mae’n werth ymweld â’r ysgol er mwyn ymdeimlo â’r gobaith sydd ymhlyg yn eu hymdrechion.
Mae’r adeilad ei hun yn ddiddorol gan fod llawer o’r brics a ddefnyddiwyd i godi’r ysgol yn cofnodi pwy a roes gefnogaeth iddynt, ac yn eu plith mae nifer fawr o Gymru. Maen bosib bod ‘na fwy ond dyma’r rhai wnes i sylwi arnynt:
Mountain Ash, Deep Duffryn Miners Lodge, S.W.M.F.
Maesteg District Miners, S.W.M.F.
Bargoed I.L.P.
New Dynant Colliery Workmen
Port Talbot N.U.R. Branches
Gorslas Co-operative Society
Wm. Thomas, Pontycymmer
Albert Day, Pontycymmer
W. Predeaux, Aberbeeg
Brother Bill, Tumle Branch I.L.P.
Mae’r garreg sylfaen yn dwyn y neges am beth ddigwyddodd yn gryno iawn:
Mr. T G Higdon and Mrs A K Higdon / were unjustly dismissed from the / Council School of this village on / the thirty-first day of March / 1914. / This building was erected by public / subsription to protest against the / action of the education authorities / to provide a free school to be a centre / of RURAL DEMOCRACY and / a memorial of the villagers’ fight for / FREEDOM.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








O son am undebau, mae’n werth gwrando ar ar ei safle beth oedd gan Barack Obama i ddweud i annog undebwyr Milwaukee, Wisconsin ddoe.