Gwyliau yn Norwich 2008-08-19 (2)
Pan ddes i yn ôl i’r fflat roedd RO a DML yn ymbaratoi i ymadael, ac ar ôl cwpanaid o goffi bant â ni ar ein taith. Neu o leia dyna roedden ni’n ei fwriadu. Wrth edrych o ffenest y fflat, wrth ddisgyn ar hyd y grisiau, fe sylwais i fod un o olwynion car RO wedi’i chlampio. Panig, panig, panig!
Wedi cyrraedd y cerbyd gwelsom fod ‘na nodyn ar y car yn dweud am nad oedd gennym awdurdod i barcio yn The Village ein bod yn agored i gael ein clampio. Roedd y nodyn wedi’i amseru tua rhyw 9.30am. Erbyn 11.15am roedd y car wedi’i glampio ac roedd yn rhaid ffonio’r ddesg ddiogelwch er mwyn ein dad-glampio. Cymerodd hynny ryw hanner awr i gyd. (Dim dirwy i’w thalu diolch byth). Roedd y brifysgol ar fai gan fy mod i wedi holi wrth gofrestru a oedd angen gwneud trefniadau am barcio’r car a chael dim cyfarwyddyd clir o gwbwl am y peth.
Felly y peth cyntaf a wnaethon ni ar ôl dod yn rhydd oedd mynd yn ôl i’r swyddfa groesawu er mwyn cael ein trwydded parcio. Rhoddwyd honno i ni yn ddidrafferth ac rydyn ni’n gobeithio ein bod yn mynd i fod yn rhydd o’r fath anghyfleusterau weddill y gwyliau. Dyna un marc du i Brifysgol Dwyrain Anglia!



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael