Codais i’n fore iawn; mae’n rhaid bod y daith wedi bod yn foddion ennyn cwsg iachus gan fy mod ar fy nhraed ychydig cyn 6.00am yn teimlo fel ebol. Doeddwn i ddim yn disgwyl i DML na RO i fod ar eu traed, felly fe dreuliais beth amser yn darllen cyn mynd ati i ysgrifennu fy mlog am y dydd.
Erbyn iddi ddod yn agos i ryw 8.00am roeddwn i wedi dihysbyddu popeth y gallwn ei wneud yn y fflat heb achosi sŵn a tharfu ar bawb arall. Felly dyma mynd allan a cherdded tuag at y safle bysus ar gampws y brifysgol. Felly am ryw 8.45am roeddwn i’n sefyll yng nghanol dinas Norwich. Roedd yr haul yn braf ac fe wnes i dipyn bach o chwilio o gwmpas.
Nid oedd cymaint â hynny o amser gen i, gan roedd yn rhaid bod yn ôl yn The Village erbyn 11.00am er mwyn dechrau ar ein taith. Ond fe fues i heibio i’r orsaf bysus, pencadlys Norwich Union, olion hen furiau’r ddinas, a rhai o’r siopau. Yn W H Smith fe brynais atlas o strydoedd Norwich a dwy nofel gan C J Sansom – buy one, get one half price – sef y ddwy nofel nesaf yng nghyfres Shardlake. Nawr, dwi’n gwybod nad ydw i wedi gorffen y gyntaf eto, ond dwi’n ffyddiog fy mod yn mynd i wneud ar y gwyliau ac felly bydd angen rhywbeth arall arna i’w ddarllen wedyn.
Wedi coffi cyflym sylweddolais fod yr amser wedi mynd a’i bod yn byd imi ddychwelyd i’r Village er mwyn cychwyn ar ein taith am 11.00am.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael