Wedi setlo yn y llety roedd yn rhaid inni feddwl am swper. Y lle naturiol i droi oedd am y ddinas ac felly fe aethon ni i mewn i’r canol. Doedd hi ddim wedi nosi eto, ond roedd gyrwyr ceir yn dechrau cynnau eu goleuadau. Aethon ni mewn reit i ganol y ddinas ac fe gawsom ni swper mewn bwyty cadwyn Eidalaidd, Bella Italia, dafliad carreg o sgwâr y farchnad. Wedyn fe aethon ni am dro o gwmpas y sgwâr a’r hen strydoedd culion yno.
Wedyn daeth problem i’r amlwg. Doedden ni ddim yn rhy siŵr sut i ddychwelyd i’r Brifysgol. Roedd pethau’n edrych yn wahanol iawn yn y tywyllwch, ac fe gymerodd dipyn o amser inni ddod o hyd i’n ffordd yn ôl i’r llety. Ar y ffordd i Norwich roedd digon o arwyddion yn dangos y ffordd i’r Brifysgol, ond prin iawn oedden nhw o ganol y ddinas. Ond fe lwyddwyd yn y diwedd ac ar y ffordd dyma alw heibio i archfarchnad leol i brynu rhai angenrheidiau ar gyfer brecwast.
A dyna ddiwedd diwrnod cyntaf fy ngwyliau i yn Norwich.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael