Archifau misol Medi 2008

Soffa ar y stryd

Dydd Sul diwethaf fe welais i soffa ar y stryd yn Aberystwyth. Roedd hi tua 11.30am ac roeddwn i’n cerdded ar hyd Heol y Wig. Dyna ryfedd!

Myfyrwyr!
Rhagor o luniau o’r soffa ar y stryd.
Bookmark and ShareClose Bookmark and Share This Page Save to Browser Favorites / BookmarksAskbackflipblinklistBlogBookmarkBloglinesBlogMarksBlogsvineBuddyMarksBUMPzee!CiteULikeco.mmentsConnoteadel.icio.usDiggdiigoDotNetKicksDropJackdzoneFacebookFarkFavesFeed Me LinksFriendsitefolkd.comFurlGoogleHuggJamespotJeqqKaboodlekirtsylinkaGoGoLinkedInLinksMarkerMa.gnoliaMister WongMixxMySpaceMyWebNetvouzNewsvineoneviewOnlyWirePlugIMPropellerRedditRojoSegnaloShoutwireSimpySlashdotSphereSphinnSpurlSquidooStumbleUponTechnoratiThisNextTwitterWebrideWindows LiveWorlds MoviesYahoo!Email This to a FriendCopy [...]

Deg gorchymyn ar gyfer blogwyr

Dros y penwythnos trefnodd y Gynghrair Efengylaidd gymanfa ar flogio Cristnogol yn Llundain. Un o’r pethau a ddaeth allan o’r gymanfa oedd deg gorchymyn ar gyfer blogwyr. Bwriad y gorchmynion yw ceisio gwneud blogwyr yn ymwybodol o effaith posib eu blogio. Mae’r Gynghrair yn croesawu ymateb ac awgrymiadau ynglŷn â’r gorchmynion hyn. Dyma fy ymgais [...]

Nofelau C J Sansom

Dwi’n llawn cynnwrf oherwydd heddiw fe fues i yn Siop Lyfrau Oxfam yn Aberystwyth a chael copi o’r bedwaredd nofel, Revelation, yng nghyfres Shardlake yr awdur C J Sansom. Dechreuais i ddarllen nofelau’r gyfres ‘nôl ar ddechrau mis Awst ac fe wnes i orffen y drydedd nofel rhyw bythefnos yn ôl. Dwi wedi cael blas [...]

Diolchgarwch am y cynhaeaf yn Ystrad Meurig 2008

Nos Sul fe fues i’n pregethu mewn gwasanaeth Diolchgarwch am y Cynhaeaf yn Eglwys S Ioan Fedyddiwr yn Ystrad Meurig. Roeddwn i wedi derbyn gwahoddiad oddi wrth yr eglwys trwy law’r ficer, y Parchg Philip Wyn Davies. Roedd Philip, cyn iddo fynd i’r weinidogaeth ordeiniedig, yn gyd-weithiwr. Daeth ef i Aberystwyth i fynd â fi [...]

Barddas Rhifyn 299/300 Awst/Medi/Hydref 2008

“Barddas newydd – cyfnod newydd” – dyna’r neges ar glawr rhifyn diweddaraf Barddas sydd newydd gyrraedd Plas-yn-Dogfael. Fel arfer dyma un o rifynnau mwyaf difyr y flwyddyn wrth i’r golygydd ac aelodau eraill y Gymdeithas Gerdd Dafod fwrw golwg dros gynnyrch yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r eisteddfod yn bwrw ei chysgod yn drws dros y rhifyn, [...]

Siopau Spar yn Tavistock

Mae dwy siop Spar yn Tavistock, Dyfnaint a diolch i Rob P mae lluniau o’r ddwy ohonynt gen i i’w rhoi ar y blog. Gobeithio y bydd pawb arall yn mwynhau’r lluniau hefyd. Diolch unwaith eto Rob!

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (9)

Gellir gweld fy holl ffotograffau o’r gwyliau yma.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (8)

A dyna ni, wrth ymadael â Pointon a Sempringham roedd ein gwyliau ar ben. Yr unig beth oedd o’n blaenau bellach oedd y daith hir yn ôl i Aberystwyth. Digwyddodd dau beth ar y ffordd. Fe aethon ni yn y lle cyntaf trwy gyrion Grantham ac fe wnes i gymryd hynny fel ein teyrnged ni [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (7)

Wedi ein hymweliad â Sempringham fe aeth Nan a Nigel â ni i’r Old Ship Inn, Pointon i gael cinio. Tra’r oedden ni yno fe gawsom gyfle i weld y llyfrau ymwelwyr y mae’r ddau yn gofalu amdanynt. Roedd ‘na bethau diddorol iawn ynddynt, ond efallai yr un a wnaeth i mi wenu fwyaf oedd [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (6)

Roedd ‘na lawer o bethau bach diddorol i’w gweld yn Eglwys S Andrews, Sempringham ac fe wnaeth Nan a Nigel wneud yn siŵr nad oedden ni’n colli dim. Yn yr eglwys ei hun mae ‘na gornel wedi’i neilltuo ar gyfer croesawu ymwelwyr o Gymru sydd yn dod i weld cofeb Gwenllïan. Er i’r rhan fwyaf [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (5)

Ffenest liw o Eglwys S. Andrews, Sempringham yn dangos dyrchafael gogoneddus ein Harglwydd.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (4)

Cyn mynd ar ein gwyliau roedd Ceris G wedi rhoi rhif ffôn i mi er mwyn cysylltu â Nan a Nigel yn Sempringham. Hwy yw ceidwaid answyddogol cofeb Gwenllïan. Daw Nan yn wreiddiol o Gwm Afan ac mae fel petai hi a’i gŵr wedi cymryd arnynt y gwaith o ofalu am y gofeb a’i dangos [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (3)

Dyma ble mae cofeb Gwenllïan ac Eglwys Priordy Sempringham.
Gweld map mwy o faint

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (2)

Maen nhw’n dweud fod ‘na unigolyn tenau o fewn i bawb tew yn ceisio dod o hyd i’w ffordd mas. Weithiau dwi’n credu fod ‘na frenhinwr y tu fewn i bob gweriniaethwr sy’n ceisio dianc yn yr un modd. Dyna oedd fy mhrofiad i yn Semphringham. Troes dau weriniaethwr rhonc yn frenhinwyr pybyr wrth inni [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-26 (1)

Daeth bore dydd olaf y gwyliau yn ddisymwth yn y diwedd. Fel plentyn ysgol â chanddo waith cartref i’w wneud erbyn y bore ond yn rhyw obeithio nad yw’r bore byth yn mynd i ddod roedd fy meddwl yn credu na fyddai’r gwyliau’n dod i ben. Ond fe ddaeth yr awr pan roedd hi’n rhaid [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-25

Diwrnod hamddenol iawn oedd fy un olaf yn Norwich. Dyna sut ddylai fod o gofio fod y daith yn ôl i Aberystwyth yn mynd i fod yn un hir. Byddai’n golygu mwy o bwysedd ar RO gan taw ef fyddai’n gyrru yr holl ffordd, ond byddai’n rhaid imi fod wrth ei ochr beth o’r amser [...]

Carreg las Preseli a Chôr y cewri

Roedd stori hir yn y Guardian ddoe am Gôr y cewri ac am gred hen drigolion yr ynys hon am rinweddau’r garreg las sydd ond i’w gweld ar Breseli ac a symudwyd yno gan ein cyndadau a’n cynfamau. Dwi’n synnu dim.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-24 (5)

Dwi’n falch o ddweud nad yn Yarmouth y gorffennodd ein taith y diwrnod hwnnw. Yn hytrach dyma fynd ymlaen i Lowestoft, rhyw ddeng milltir i’r de o Yarmouth a’r man mwyaf dwyreiniol ar Ynys Prydain. O’i gymharu â Yarmouth mae Lowestoft yn wahanol iawn – mae’r porthladd gymaint â hynny yn fwy, a’r traeth a’r [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-24 (4)

Yn Yarmouth fe dynnais lun siop Spar. Roedd hi’n sefyll yng nghysgod canolfan siopa enfawr Market Gates.

Gwyliau yn Norwich 2008-08-24 (3)

Wrth gerdded o gwmpas fe ddaethon ni o hyd i ryw gyswllt gyda gorffennol Yarmouth, sef yr eglwys undodaidd. Er bod gwreiddiau’r cyfarfod yn mynd yn ôl i 1648 cafodd yr adeilad presennol ei godi wedi’r Ail Ryfel Byd a’r bomio difrifol a fu yma. Bellach mae Old Meeting Unitarian Church yn cyfarfod mewn tŷ-cwrdd [...]