Gwyliau yn Norwich 2008-08-18 (1)

Diwrnod hir o deithio heddiw wrth inni fynd o Aberystwyth i Norwich. Mae’n siŵr fod y daith hon gyda’r hiraf y gellir ei gwneud yn union ar draws Ynys Prydain – hynny wrth aros bron â bod ar yr un llorwedd heb wyro i’r gogledd na’r de. Doedd dim llawer o ddewis ynglŷn â bod yn hamddenol am y daith. Roedd rhyw 400 km i’w deithio ac felly os am wneud hynny mewn golau dydd, hyd yn oed ganol Awst, roedd yn rhaid cadw ati.

Cychwynnais i ac RO o Aberystwyth am ryw 10.00am – gydag RO yn gyrru a finnau’n nafigadu - gan alw heibio i Langadfan i gasglu DML ar y ffordd.

Fel dywedais yr oedd yn rhaid inni fod yn weddol ddisgybledig am y teithio felly fe wnaethon ni yrru ymlaen hyd amser cinio pan wnaethon ni aros yn Bridgnorth am ryw 1.00pm. Er taw dim ond rhyw dri chwarter awr y buon ni yn Bridgnorth roedd yn gyfle i ni weld y Stryd Fawr gyda’i Neuadd y Dref drawiadol yn dyddio o ganol yr ail ganrif ar bymtheg. Ond ein nod mewn gwirionedd oedd caffi bach mewn un o’r strydoedd cefn lle cafwyd cinio digon derbyniol am bris rhesymol, the Bakehouse Cafe.

Neuadd y dref, Bridgnorth

Fel y dywedais doedd dim amser i aros o gwmpas yn y gobaith o weld rhywbeth diddorol, roedd yn rhaid cadw i fynd os oeddem i gyrraedd Norwich ar awr gyfrifol. Ac wrth gwrs roedd y rhan anodd o’r daith o’n blaenau, y rhan nad oeddem yn ei hadnabod o gwbwl. O Bridgnorth aethon ni tuag at Kidderminster ac o fan ‘ny am Bromsgrove lle wnaethon ni fynd ar y draffordd M42, yna ar yr M6, A14 ac yna’n olaf yr A11 cyn cyrraedd Norwich. Fe wnaethon ni aros am de am ugain munud wrth deithio ar yr A14, ond cadw i fynd oedd y bwriad. Wrth deithio ar yr A14 fe aethon ni heibio i faes brwydr Naseby, 1645.

Naseby

Fe wnaethon ni gyrraedd Norwich erbyn 6.30pm, wel cyrion Norwich i ddweud y gwir. Yr oeddem yn mynd i aros yn un o neuaddau Prifysgol Dwyrain Anglia sydd rhyw 5km o ganol y ddinas. Wedi ychydig o betruster daethpwyd o hyd i’r man cofrestru a’r neuadd lle’r oeddem ni i aros am yr wyth noson nesaf yn gymharol ddidrafferth.

The Village, Prifysgol Dwyrain Anglia (UEA), Norwich

Rydyn ni’n aros yn The Village, sef pentref myfyrwyr y brifysgol sydd ochr arall i’r ffordd i’r prif gampws. Prifysgol campws go iawn yw Prifysgol Dwyrain Anglia. Cafodd ei hagor yn 1963 ac er ei bod hi’n amlwg fod datblygu mawr wedi digwydd yno ers hynny, mae rhywbeth o ysbryd y 1960au yn aros ar hyd a lle y campws.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)

Gwneud sylw

Ni chaiff dy gyfeiriad e-bost fyth mo'i gyhoeddi na'i rannu. Nodir y meysydd hanfodol gyda *