Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-08

Dwi’n ofni na ddigwyddodd rhyw lawer heddiw. Aeth DML a DJP i’r eisteddfod fel arfer ac fe es i ac RO i mewn i’r ddinas ar y bws. Mae’r tocyn diwrnod yn fargen ac yn galluogi dyn i deithio fel y mynno. Wedi cinio aeth RO i’r eisteddfod ac es i lawr i Fae Caerdydd ar y bws, yna yn ôl i ganol y ddinas i gael yr ychydig gynhwysion terfynol ar gyfer y swper; yr olaf yn Neuadd Buddug. Rhaid imi gyfaddef imi weld bargen yn M&S ar ffalaffel ac felly dyma brynu dau becyn er mwyn cael i swper. Y prif gwrs oedd pelenni cig iâr gyda philaff (fel arfer!) a saws tomatos. Dyma orffen yr wythnos mewn steil.

Swper 2008-08-08

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>