Yn y prynhawn fe es i lansiad gwefan newydd Casglu’r Tlysau ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd yn gyfle i weld ac i glywed y gweinidog treftadaeth newydd, sef Alun Ffred Jones AC. Fe wnaeth argraff dda. Fe wnaeth gadw ei araith yn fyr ac ni wnaeth ddweud dim byd ffuantus na diangen. Patrwm ar sut i ymddwyn ar waith swyddogol.
Wedyn ‘nôl i Neuadd Buddug yn haf poeth y prynhawn i goginio swper. Heno roeddwn i am wneud cyw iâr gyda philaff tomato. Y cyfan yw pilaff tomato mewn gwirionedd yw berwi’r reis mewn cymysgedd o stoc a thomatos wedi’i malu’n fân ac ychwanegu ychydig siwgr i roi ychydig bach o help i’w melyster naturiol. Fel mae’n digwydd roedd ychydig o gnau pîn ar ôl yn y cwpwrdd ac fe aeth y rheiny i mewn i’r reis hefyd.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael