Gwyliau yn Norwich 2008-08-18 (2)

Fel y dywedais mae’r ystafelloedd lle’r ydyn ni’n aros yn The Village. Rydw i’n aros ystafell D, fflat 5, Courtyard A. Mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau yn The Village wedi’u henwi ar ôl coed – Pine, Willow, Birch, a.y.y.b. Ond am ryw reswm neu’i gilydd mae ‘na ddau adeilad sy’n dwyn yr enwau swynol Courtyard [...]

Gwyliau yn Norwich 2008-08-18 (1)

Diwrnod hir o deithio heddiw wrth inni fynd o Aberystwyth i Norwich. Mae’n siŵr fod y daith hon gyda’r hiraf y gellir ei gwneud yn union ar draws Ynys Prydain – hynny wrth aros bron â bod ar yr un llorwedd heb wyro i’r gogledd na’r de. Doedd dim llawer o ddewis ynglŷn â bod [...]

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-09

Yn wahanol i’r arfer daeth fy eisteddfod i ben ddydd Sadwrn. Fel arfer bydda i’n aros tan fore Sul, ond eleni roedd pethau’n wahanol. Felly roedd hi’n dipyn o sioc i weld DML a DJP yn ymadael am yr eisteddfod fel arfer a finnau ac RO yn pacio yn barod i fynd am adref. Roedd [...]

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-08

Dwi’n ofni na ddigwyddodd rhyw lawer heddiw. Aeth DML a DJP i’r eisteddfod fel arfer ac fe es i ac RO i mewn i’r ddinas ar y bws. Mae’r tocyn diwrnod yn fargen ac yn galluogi dyn i deithio fel y mynno. Wedi cinio aeth RO i’r eisteddfod ac es i lawr i Fae Caerdydd [...]

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-07 (3)

Yn y prynhawn fe es i lansiad gwefan newydd Casglu’r Tlysau ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd yn gyfle i weld ac i glywed y gweinidog treftadaeth newydd, sef Alun Ffred Jones AC. Fe wnaeth argraff dda. Fe wnaeth gadw ei araith yn fyr ac ni wnaeth ddweud dim byd ffuantus na diangen. Patrwm ar [...]