Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-07 (2)

Dechreuais i fynd i’r eisteddfod o ddifri yn 1975. Dros y blynyddoedd dwi wedi gweld llawer o bethau gwych a gwachul. Ar y dechrau roeddwn i’n cadw’n ffyddlon i’r hen babell lên. Wedyn dechreuais i fynd i theatr fach y maes. Dwi wedi gweld llawer o newid hefyd; efallai taw’r newid mwyaf yw’r corfforaethu sydd wedi digwydd i’r eisteddfod ers canol y 1990au. Dwi’n siŵr ei bod hi’n rhaid i gyrff cyhoeddus fod yno, ond rhaid i mi gyfaddef nad oes gen i lawer o ddiddordeb mewn dysgu am y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan yr asiantaeth hon neu’r cwango arall. O ganlyniad mae’n rhaid mynd i chwilio am y stondinau gwirioneddol ddiddorol yng nghanol hyn i gyd. Ac i ddweud y gwir does gen i ddim mo’r awydd i wneud hynny.

Y dorf yn yr eisteddfod

Felly mae fy ymweliad i â’r maes yn weddol ddewisol. Eleni fe wnes i alw heibio i stondinau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cyngor Llyfrau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Barddas. Roeddwn i wedi bwriadu galw heibio i Gymdeithas Cymru-Ariannin hefyd, ond wnes i ddim llwyddo i wneud hynny yn y diwedd.

Yr hyn a wnaeth fy ymweliad i â’r eisteddfod yn bleser eleni oedd cyfarfod â hen ffrindiau o Sir Bendro nad oeddwn i wedi’u gweld ers amser – Jiwli, Phil a Sioned. Treuliais dipyn o amser yn eu cwmni a chael cyfle i siarad am bob math o bethau.

Jiwli

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>