Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-07 (1)

Bydda i’n well imi orffen adrodd yr hanes am yr eisteddfod cyn imi droi at y gwyliau yn Norwich a Norfolk.

Dydd Iau oedd fy niwrnod mawr i yn y yr eisteddfod. Mewn geiriau eraill dyna ‘r unig ddiwrnod yr oeddwn i’n teimlo ei bod hi’n rhaid imi fynd i’r maes. Roedd rhagolygon y tywydd trwy’r wythnos wedi bod yn hala ofn arna i. Roedd meddwl am gerdded am hanner awr trwy’r glaw er mwyn cyrraedd y maes yn ddigon i fy ngwneud i’n llwfr. Roedd glaw wedi’i addo ar gyfer dydd Iau, ond y bore hwnnw roedd popeth yn edrych yn iawn.

Y llwybr o Neuadd Buddug i faes yr Eisteddfod

I ddweud y gwir roedd y ffordd o Neuadd Buddug a thrwy’r coed i’r bont dros Afon Taf yn daith hyfryd. Dim ond croesi’r ffordd brysur iawn i mewn i ganol dinas Caerdydd oedd yn rhaid ac roedd dyn yn cael ei hunan mewn rhyw fath o ‘gefn gwlad’ – coed a gwyrddni. Nawr, roedd rhywun yn ymwybodol ei fod yn dal i fod mewn dinas, ond roedd hi’n bosib twyllo dy hunan dy fod yn bell ohoni hefyd.

Wedi cerdded trwy’r goedwig roedd dod ar draws yr eisteddfod mewn llannerch yn debyg iawn i Hansel a Gretel yn dod o hyd i’r tŷ bara sinsir, yn enwedig felly gan taw’r pafiliwn pinc oedd y peth mwyaf amlwg.

Yr eisteddfod yng Nghaerdydd

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>