Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (6)

Er gwaetha’r glaw mae ‘na un llygedyn o heulwen wedi tywynnu i mewn i’n bywydau yn Neuadd Buddug. Mae brwydr y sianel wedi’i hennill! Wedi inni ddychwelyd o borfeydd gwlyb Caerffili fe aeth RO ati i weld beth oedd ar y teledu, ac O ryfeddod! ar sianel 15 roedd S4C Digidiol yn ei holl ogoniant. Dwi’n teimlo braidd yn euog am hyn gan nad oeddwn i wedi bod yn rhan o’r frwydr o gwbl, na neb arall yn fflat B1. Yn hytrach na chreu ffws roeddem ni wedi bodloni ar wrando ar Tocyn wythnos gyda Beti George. Ond mae ‘na lot o bobol yr eisteddfod yn aros yn Neuadd Buddug a rhai ohonyn nhw yn bobol ddigon bolshi. Dwi’n cymryd taw un ohonyn nhw a fartsiodd lawr at y groesawfan a mynnu’r hawl i weld ei sianel ei hun yn ei wlad ei hun. A diolch byth am bobol felly. Oherwydd nawr rydyn ni’n medru gwrando ar Tocyn wythnos ar Radio Cymru a chwedyn edrych ar Bigion y dydd gyda Rhun ab Iorwerth ar S4C Digidol.

Y teledu yn fflat B1, Neuadd Buddug

Rhagor o luniau o fy eisteddfod i 2008-08-05.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (4 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>