Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (5)

Igam ogam gan Ifan Morgan JonesBeth ydych chi’n ei wneud pan ei bod yn bwrw glaw yng Nghaerdydd? Mynd i Gaerffili i weld a yw hi’n bwrw yno. Wel o leia dyna beth benderfynon ni ei wneud. Roeddwn i am weld Capel a Phlas Watfford ar gyrion Caerffili oherwydd ei gysylltiad gyda’r Methodistiaid cynnar. Ond doedd dim pall ar y glaw. Er inni deithio’n araf mewn tagfa draffig trwy ganol Caerdydd yn y glaw i gyrraedd Caerffili, roedd hi’n bwrw gormod i feddwl dod mas o’r car i edrych am y capel. Roedd yn dipyn o siom, ond wedyn roeddwn i yn y car ac yn gymharol sych o’m cymharu gyda’r trueiniaid oedd yn crwydro maes yr eisteddfod mae’n siŵr.

Mae glaw mewn amgylchiadau fel hyn yn medru bod yn dorcalonnus. Doedd gen i ddim byd pwysig yr oedd yn rhaid i’w wneud, ond roeddwn i wedi gobeithio cael golwg ar Gapel Watfford, ac yna efallai mynd heibio i Eglwys Llanwynno cyn mynd yn ôl i Neuadd Buddug. Ond doedd dim dewis amdani mewn gwirionedd ond mynd yn ôl i Neuadd Buddug, wedi inni brynu ychydig negeseuon ar gyfer swper.

Wrth ddod yn ôl yn gynnar roedd yn rhoi cyfle i wneud dau beth – gwrando ar seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen a chymryd ychydig amser dros goginio swper.

Enillydd y Daniel Owen oedd Ifan Morgan Jones am ei nofel Igam ogam. Wrth glywed y Parchedig Harri Parri yn traddodi’r feirniadaeth roeddwn i’n gwybod nad deunydd darllen naturiol i mi oedd hon. Efallai imi gael fy magu ar ormod o D J Williams a Kate Roberts, ond dwi’n reit hoff o realaeth. Ar y llaw arall dwi ddim yn hoff iawn o ffantasi yn nhraddodiad Terry Pratchet a’i debyg, ond dyna beth yw’r nofel a enillodd. Dwi wedi gofyn i DML brynu copi i mi er mwyn medru dechrau ei darllen cyn gynted â phosib.

Koftah

I swper roeddwn yn bwriadu coginio koftah, sef pelenni cig o’r dwyrain canol. Er taw gyda salad a bara y caiff y pelenni eu gweini fel arfer fe wnes i lybwr gyda chili a reis i fynd gyda nhw. Fel mae’n digwydd roedd hi’n llawer haws i wneud y pelenni nag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl, ac roedd y pryd yn un blasus dros ben. A dwi’n gwybod taw fi sy’n dweud hynny, ond weithiau mae’n fy rhyfeddu i pa mor hawdd yw hi i ddilyn rysáit a chael y canlyniad a addawyd.

Swper 2008-08-05

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

3 sylw ar Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (5)

  • Ifan

    Gobeithio wnei di fwynhau’r llyfr Dogfael, er gwaetha’r ffaith nad yw ffantasi at dy ddant di! Rho wybod beth ti’n meddwl ohoni a bydd barn gonest o gymorth mawr i fi wrth ysgrifennu yn y dyfodol.

    P.S. Er mod i’n sgwennu ffantasi dw i wrth fy modd gyda cyfrolau fel Storïau’r Tir a Ffair Gaeaf hefyd! Er dyw straeon hwyrach Kate Roberts ddim cymaint at fy nant i.

  • Dogfael ‘achan – mae realiti yn iawn, ond difyrrach o lawer yw Pryderi, Pwyll, Rhiannon a Manawydan, Prince Caspian, Frodo a Golum a Harri Potter – wi’n siwr ‘nei di joio llyfr Ifan mas draw – just don’t fight it, go with the flow :)

  • Wyddwn i ddim bod â Chapel Watford ran yn hanes y Methodistiaid.
    Dw i eisiau mynd i weld Capel y Groeswen, sydd hefyd yn yml Caerffili a sydd heyf dy capel ‘Annibynwyr’ cyntaf i’w godi os dw i’n iawn.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>