Wedi rhedeg trwy’r glaw o’r Senedd i Adeilad y Lanfa i weld yr offeryn statudol cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol ei awdurdodi roeddwn i’n barod am fy nghinio, ac felly hefyd fy nghyfaill RO. Roedden ni wedi bwriadu yn wreiddiol mynd mas o’r ddinas am ginio, ond yng nghanol y glaw – ac oherwydd inni dreulio mwy o amser o lawer yn crwydro’r Senedd nag yr oeddem wedi’i fwriadu yn wreiddiol – fe gawsom ni ginio mewn bwyty Pizza Express gerllaw. Roedd y lle yn edrych yn dawel yn y glaw, ond wrth inni eistedd yno fe wnaeth hwnnw beidio ac yn sydyn ymddangosodd torf ar ôl torf yn chwilio am fwyd ac yn crwydro o gwmpas gan ddod â bywyd i’r ardal.
Wedi cinio roedd gennym un lle arall i’w weld. Bellach mae’n rhaid i’r rhai sydd yn dioddef o obsesiwn gyda gwleidyddiaeth ymweld â thafarn yr Eli Jenkins, lle daeth gyrfa Rhodri Glyn Thomas fel gweinidog treftadaeth i ben yn dilyn digwyddiad gyda sigâr. Wrth gwrs ym mis Awst doedd dim gwleidydd na newyddiadurwr o gwmpas ac felly roedd y lle i gyd, gan gynnwys y Senedd, yn teimlo’n wag. Bydd yn rhaid dod yn ôl eto ar gyfer gweld y Cynulliad Cenedlaethol mewn sesiwn lawn.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael