Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (2)

Y Senedd, CaerdyddRhyw ddwy flynedd yn ôl bues i yng Nghaeredin a’r pryd hynny cefais gyfle i ymweld â Senedd yr Alban yn Holyrood. Roedd hwnnw’n brofiad gwych, ond er nad oedd cymaint o ffws yn cael ei wneud yn y Senedd yng Nghaerdydd, rhaid dweud fod y pleser o weld y siambr a’r ystafelloedd pwyllgora a chyfarfod yn fwy i mi. Mae’r adeilad yn un trawiadol, ac mae’r ffaith fod y gwleidyddion wastad ar y lefel isaf gyda’u etholwyr yn cerdded uwch eu pen, yn sumbolaidd iawn. Nid yw’n adeilad mor fawr na mawreddog ag yw Senedd yr Alban – dim ond siambr ac ystafelloedd pwyllgora sydd yma o’u cymharu â’r cymhlethdod adeiladau roedd yn cael eu codi yn yr Alban – ond mae ei arwyddocâd cymaint yn fwy. Roedd ‘na adeilad yng Nghaeredin yn barod a oedd wedi bod yn gartref i senedd yr Alban cyn yr uno yn 1707. Ond i ni dyma’r adeilad cyntaf erioed ar dir Cymru sy’n gweithredu fel dadleufa a deddfwrfa genedlaethol.

Dogfael yn y Senedd, Caerdydd

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (3 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.67 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>