Roeddem ni wedi bwriadu galw heibio i Bethesda’r Fro a’r Bont-faen wedi cinio, ond roedd hi’n edrych fel petai’n mynd i fwrw glaw. Ond cyn gwneud dim o hynny roeddwn wedi addo mynd i lan y môr i ddangos pa mor agos oeddem ni i’r arfordir. Un o’m hoff lefydd i yw Aberddawan a’r ffordd gul i lawr yno trwy bentref bach Silstwn. Ni chawsom ein siomi, er ein bod yn mwynhau’r olygfa yng nghysgod hen bwerdy Aberddawan. Wrth inni grwydro yno roedd y cymylau’n tywyllu a’r glaw yn dechrau pigo.
Ond cyn troi yn ôl am Gaerdydd dyma fynd ymlaen i brif ddinas y Fro, sef y Bont-faen i weld y gofeb sydd yno i Iolo Morganwg. Petai’r tywydd wedi bod yn sych byddwn i’n bendant wedi mynnu fod y cyfeillion yn dod heibio i Egwys y Grog a’r hen Ysgol Ramadeg hefyd. Ond wrth inni gerdded ar hyd y stryd fawr am y plac sydd gyferbyn â Neuadd y Dref fe ddechreuodd fwrw’n drwm.
Er torri ein siwrnai yn fyr roedd pob un ohonom wedi mwynhau ein taith o gwmpas Bro Morgannwg.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael