Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (4)

Fe aethon ni i Lanilltud Fawr ar gyfer ein cinio, gan fwyta mewn hen dafarn, The Old Swan Inn, gyferbyn â Neuadd y Dref. Yn ôl y plac ar y wal roedd y lle’n dafarn cyn i’r Esgob William Morgan ddechrau meddwl am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf o brif nodweddion Llanilltud Fawr yn dyddio o gyfnod cynnar hanes Cymru gan gynnwys clas Illtud Sant (6ed ganrif) a oedd yn ganolfan i ddysg a fyddai wedi’i disgrifio fel ‘prifysgol’ mewn oes ddiweddarach. Bellach y cyfan sydd ar ôl o holl ogoniant y gorffennol yw’r adeiladau, oherwydd o ran bywiogrwydd mae’r pentref (neu dref) yn teimlo yr un mor dawel a digyffro â’r rhan fwyaf o Fro Morgannwg.

Wrth deithio o Drefflemin i Lanilltud Fawr roedd yn rhaid inni deithio heibio i un wersyll milwrol Sain Tathan. Mae hwnnw’n edrych yn ddigon bygythiol yn barod, ond mae cynllun ar droed i droi’r lle yn un o brif academïau milwrol y wladwriaeth. Bydd hynny’n golygu cyflogi miloedd yn fwy o weithwyr ar y safle – llawer mwy o swyddi, ond a yw’r gost yn ormod i’w dalu am y swyddi hyn? Yn eironig ddigon, milwr oedd Illtud hyd nes iddo osod ei arfau o’r neilltu pan ddewisodd ddilyn Iesu fel ei Arglwydd a’i Waredwr. O na fyddai Eglwys Crist yn dal i gyhoeddi y gwirionedd hwnnw’n gwbl ffyddlon!

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>