Er y gallwn i fod wedi aros yn Llan-fair am oriau, roedd gennym nodau eraill i’w cyflawni, a llefydd eraill Ioloaidd i ymweld â hwy. Erbyn hyn roedd rhai yn galw am eu cinio, ond cyn troi tuag at Lanilltud Fawr i chwilio am le i fwyta, roedd yn rhaid galw heibio i Drefflemin. Roeddwn i’n gwybod fod ‘na gofeb yn yr eglwys yno i Iolo Morganwg. Mae rhywbeth braidd yn chwithig mewn codi cofeb i Iolo, yr arch-ryddfrydwr a’r undodwr, mewn eglwys oedd ar y pryd yn rhan o’r sefydliad, ond mae’n dda bod ‘na rywbeth gweladwy i nodi cysylltiad y dyn rhyfeddol gyda’i gynefin.
Does dim rhyw lawer yn Nhrefflemin ond yr eglwys ac ychydig o dai. Roedd drws yr eglwys wedi’i gloi, ond daeth DJP o hyd i Court Cottage o fewn munudau a chawsom ni’r allwedd i’w ddatgloi. Eglwys fach iawn yw Eglwys Mihangel a’r Holl Angylion, Trefflemin ac mae’r gofeb i Iolo yng nghefn yr eglwys yn enfawr ac yn gwbl ddwyieithog. Mae’n tystio i’w ddysg mewn llenyddiaeth ac mewn agweddau eraill ar hanes ein gwlad.
Roedd yn ddiwrnod braf iawn ac fe dreulion ni ennyd hyfryd yn y tawelwch hwnnw sy’n nodweddu cymaint o bentrefi a threfi’r Fro. Gallwn ni fod wedi aros yno drwy’r dydd, ond roedd un peth yn ein galw i deithio ymlaen – roedd hi’n amser cinio.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael