Wrth inni ddod mas o’r Old Swan Inn fe welson ni fod torf fechan wedi ymgasglu’r tu fas i Neuadd y Dref. Roedden nhw i gyd wedi’u gwisgo yn barchus ac yn eu plith rai yn cario baneri. Fel mae’n digwydd roeddem ni wedi dod i Lanilltud Fawr ar y dydd Sul pan roedd gwasanaeth sifig yn cael ei gynnal yn yr eglwys i nodi penodi maer newydd. Roedd pawb bron yn gwisgo cadwyn neu fedal neu’n cario baner. Roedd hi’n rhyfedd i weld y dorf yn ymgasglu a’r byd fel petai’n mynd heibio iddynt. Doedd neb yno yn gwylio’r hyn a oedd ar ddigwydd heblaw am ddau blismon a ni’n pedwar. Eto i gyd roedd y ddefod yn bwysig iawn i’r rhai oedd yn rhan o’r peth. Roedd y gwasanaeth yn dechrau am 3.00pm yn Eglwys Illtud Sant, ac felly am 2.50pm dyma’r dorf yn cychwyn am yr eglwys gyda’r rheithor a chrochlefwr y dref yn y blaen. Roedd hi’n union fel bod mewn rhyw dref fechan ar ganol tir mawr Ewrop gyda’r pwysigion i gyd yn eu hiwnifforms echreiddig. A dyna gofio’n sydyn iawn fod trigolion ynysoedd Prydain yn dwlu ar iwnifforms yn union yr un ffordd.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael