Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (1)
Does yr un eisteddfod yn haeddu glaw. Dwi’n dweud hynny o brofiad fel un oedd ar rai o bwyllgorau Eisteddfod Abergwaun yn 1986. Fe weithiodd trigolion yr ardal yn galed iawn er mwyn cael rhywun fel Gwilym Owen i gerdded rownd y maes yn datgan yr amlwg: sef bod pridd a dŵr yn creu mẁd. Gwelwyd yr un fath o beth yn digwydd yn Nhyddewi yn 2002. Ond am ryw reswm wrth wylio pigion yr ŵyl ar S4C digidol neithiwr prin soniodd Rhun ab Iorwerth am y glaw.
Ond dwi’n ofni taw glaw, glaw a hyd yn oed mwy o law sydd gen i i’w ddweud amdano heddiw. Roedd hi’n ofnadwy ddoe o ran tywydd. Yn lle mynd ar ein taith arferol o gwmpas bro’r eisteddfod, fel mae RO a minnau yn ei wneud am ddiwrnod neu ddau yn ystod yr wythnos, roedd yn rhaid inni fodloni i dreulio’r rhan fwyaf o’r dydd mewn tagfa draffig yn y glaw.
Roedd hi’n amlwg nad oedd y tywydd yn mynd i fod yn ffafriol o’r amser y cychwynson o Neuadd Buddug i lawr i Fae Caerdydd. Er ein brwdfrydedd gwleidyddol doedd yr un o’r ddau ohonom wedi bod i weld adeilad gorffenedig y Cynulliad Cenedlaethol, sef y Senedd.
Wrth inni gyrraedd a pharcio ger yr Eglwys Norwyaidd dechreuodd fwrw ac felly y bu am weddill y dydd. Rhaid dweud taw dim ond twll yn y ddaear oedd y Senedd y tro diwethaf imi ei gweld. Roedd gweld yr adeilad yn sefyll ar lan y dŵr yn brofiad gwefreiddiol. Dwi’n gwybod fod pawb wedi meddwl neu ddweud hyn, ond man a man i fi ychwanegu yr un sylw – petai rhywun wedi dweud wrtha i drannoeth cyhoeddi canlyniad refferendwm 1979 y buaswn un dydd yn gweld senedd-dy yng Nghaerdydd mae’n siŵr y buaswn wedi beichio crio mewn cydymdeimlad gyda rhywun oedd wedi’i siomi cymaint gyda’r canlyniad fel ei fod yn dechrau mynd yn wallgof!
Fel ‘na roeddwn i’n teimlo yn 1979 a thrwy’r rhan fwyaf o 1980au, ond heddiw wrth gerdded i fyny at y Senedd roedd fy nheimladau’n wahanol iawn. Er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n bwrw’n drwm, doedd dim brys arna i i gyrraedd cysgod y to enwog; na, roeddwn i am fwynhau’r olygfa gyntaf hon cyhyd ag y gallwn. Dwi ddim am swnio’n rhy hunanol, ond roeddwn i wedi bod yn rhan o’r broses a arweiniodd at sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol, ac felly rhan o’r broses a gododd y Senedd. Roeddwn i’n teimlo’n falch drosof fy hun, a thros aelodau o’m teulu oedd yn credu yr un fath â mi ond heb gael byw i weld gwireddu eu dyheadau tros Gymru.
Daeth dagrau i’m llygaid; ond ni wnes embaraso fy hunan na neb arall chwaith gan eu bod yn edrych fel glaw! Felly ar un cyfrif mae’n beth da ei bod hi’n bwrw wrth fynd i weld y Senedd am y tro cyntaf.



(5 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.20 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Dogfael, mae hwn ydy’r peth gora ddarllenes i’n ddiweddar.