Dwi’n teimlo fy mod yn dechrau dod i adnabod dinas a’i dofi wrth ddeall ei sustem drafnidiaeth. Felly wedi i’r cyfeillion fynd am yr eisteddfod fe es i ati i geisio deall bysus Caerdydd a sut i gyrraedd ble’r oeddwn i am ei gyrraedd yn y ffordd fwyaf effeithlon a rhataf. Wedi chwilio a darllen ar wefan Bws Caerdydd fe welais taw bws rhif 27 oedd ei angen arnaf o Neuadd Buddug i mewn i’r ddinas ac fe allwn brynu tocyn diwrnod o deithio o fewn i’r ddinas am £3. Doedd dim troi nôl wedyn.
Roedd y bws yn dweud ei bod yn ddull ‘gwyrdd’ (neu a ddylwn i ddweud, ‘gwerdd’) o deithio; ond y peth mawr a’m trawodd i oedd y ffaith fod Sky News yn cael ei arddangos ar sgrin yn y bws er mwyn arbed i bobol fynd i’r drafferth o siarad gyda’i gilydd, mae’n rhaid.
Doedd hi ddim yn daith hir iawn i mewn i’r ddinas – petawn i’n fwy heini a’m hewyllys yn fwy pendant mae’n debyg y gallwn i fod wedi cerdded, ond dwi ar fy ngwyliau!
Fe aeth y bws â fi i Heol Eglwys Fair ac fe dreulies ryw awr yn crwydro trwy’r farchnad yn prynu negeseuon ar gyfer coginio gyda’r nos. Wedyn fe es ymlaen i’r Ais ac siop lyfrau Waterstones ac yna i Heol y Frenhines, cyn mynd yn ôl ar y bws i Neuadd Buddug i gael fy nghinio.
Bellach roeddwn i’n dechrau cael blas ar y bws ac felly dyma ddychwelyd i’r ddinas yn y prynhawn a mynd i chwilio am siop ffotograffiaeth er mwyn cael weiren i gysylltu fy nghamera gyda’r cyfrifiadur ac er mwyn chwilio am un neu ddau o negeseuon eraill yn siop Sainsburys ar ben pellaf Heol y Frenhines.
Wedi dod adref dyma ddechrau coginio’r tagine cyw iâr ar gyfer swper. Rysait o Morocco gyda mel, almonau a datys – yn anffodus fe fethais ddod o hyd i ddatys ffres, felly dyma ddefnyddio gweddill y resins yn eu lle.
Wrth goginio fe wrandewais ar y darllediad byw o’r eisteddfod ar y radio. Aled Gwyn oedd yn traddodi’r feirniadaeth yng nghystadleuaeth y goron a hynny’n gampus. Roedd hi’n gyffrous hefyd i glywed taw’r enillydd oedd Hywel Griffiths. Mae’n siŵr fod y rhan fwyaf o wylwyr beirdd Cymru yn disgwyl iddo ennill un o wobrau’r brifwyl yn hwyr neu’n hwyrach, ond efallai taw’r gadair yr oedd llygaid pawb arni drosto yn hytrach na’r goron.
O glywed fod Hywel Griffiths wedi ennill roeddwn i’n rhyw hanner disgwyl na fuasai DML yn ôl yn gynnar ac yntau yn gweithio i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, a Hywel yn gadeirydd ar y mudiad. Roeddwn i’n siŵr y buasai DML wrth ei fodd, a rhagor, oherwydd buddugoliaeth Hywel. Doeddwn i ddim yn anghywir. Roeddwn i wedi hanner meddwl gosod papur newydd ar hyd y llawr rhag ofn iddo fyrstio gyda boddhad; daethom yn weddol agos at y sefyllfa honno!
Wrth gwrs un o nodweddion hynod yr eisteddfod yw nad yw hi’n bosib darllen y cerddi sydd wedi ennill y goron tan ddydd Gwener pan gaiff y cyfansoddiadau eu cyhoeddi. Felly rhaid dibynnu’n llwyr ar sylwadau’r beirniad o’r llwyfan. Yr hyn wnaeth fy mhlesio i fwyaf oedd clywed fod y cerddi yn rhai positif yn dathlu bywyd yn y brif ddinas. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i’w darllen. Rwyf yn adnabod Hywel Griffiths trwy fy nghysylltiad i gyda Chymdeithas yr Iaith ac yn ei gael yn ddyn hynaws iawn, ond tawel. Er roedd ganddo ddigon i’w ddweud wrth iddo gael ei gyfweld ar y radio gyda’r nos.
Rhaid i RO gael ei ginio ar amser, dyna sut un ydi o. Felly pan ddaeth hi’n 7.30pm a ninnau heb glywed gan y ddau oedd yn dal i fod ar faes y brifwyl fe gymerais benderfyniad i goginio’r cwscws oedd yn mynd i fynd gyda’r tagine. Wrth gwrs, y funud inni eistedd lawr a dechrau bwyta dyma DML a DJP yn dod trwy’r drws!
Nid oedd gan yr un o’r ddau amser i fwyta am eu bod mor awyddus i adrodd hanes y coroni yn ei gyfanrwydd. DML wedi mynd i mewn i’r pafiliwn a DJP wedi mynd gyda’r orsedd, er ei fod wedi gadael y peth i’r funud olaf! Ond doedd dim rhyfedd, hyd yn oed yn ein gwlad fach ni nid bob dydd mae rhywun yr ydych yn ei adnabod yn ennill coron yr eisteddfod genedlaethol.
Roedd cyffro’r dydd wedi blino DML yn lân ac wedi swper roedd e’n edrych ymlaen i’w wely. Roedd pethau’n wahanol i DJP; mae’n rhaid bod prifeirdd yn debyg i efeilliaid gyda rhyw synnwyr ychwanegol sy’n eu huno. Roedd e am wneud rhywbeth arall. Y dewis oedd mynd i Faes C, ond doedd neb yn rhyw siŵr iawn beth oedd yn digwydd yno. Felly fe ges i’r gwaith o ffonio un o drigolion y maes carafannau i holi, sef GC. Bu hithau’n garedig iawn gan gynnig mynd draw i’r babell i weld a oedd rhywbeth yn digwydd. Oedd, mynte hi, roedd Catrin Dafydd a Gwyneth Glyn a phobol eraill ar y llwyfan yn diddanu. Aeth DML a fi i’r gwely ac aeth DJP ac RO i Faes C.
Diwedd diwrnod cyffrous yng Nghaerdydd ac yn Eisteddfod 2008.




(4 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Ma’r goron ar ‘i ffordd i Lanbadarn, mae ‘na fedal ar ‘i ffordd i Benparcau. Mae llygaid y byd nawr yn troi tua’r Waun . . . .