Eisteddfod yn y ddinas yn y glaw 2008-08-05 (1)

Does yr un eisteddfod yn haeddu glaw. Dwi’n dweud hynny o brofiad fel un oedd ar rai o bwyllgorau Eisteddfod Abergwaun yn 1986. Fe weithiodd trigolion yr ardal yn galed iawn er mwyn cael rhywun fel Gwilym Owen i gerdded rownd y maes yn datgan yr amlwg: sef bod pridd a dŵr yn creu mẁd. [...]

Eisteddfod yn y ddinas 2008-08-04

Dwi’n teimlo fy mod yn dechrau dod i adnabod dinas a’i dofi wrth ddeall ei sustem drafnidiaeth. Felly wedi i’r cyfeillion fynd am yr eisteddfod fe es i ati i geisio deall bysus Caerdydd a sut i gyrraedd ble’r oeddwn i am ei gyrraedd yn y ffordd fwyaf effeithlon a rhataf. Wedi chwilio a darllen [...]

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (9)

Wedi cinio dydd Sul fydda i ceisio coginio rhywbeth ysgafn gyda’r nos ac felly dau gwrs cymharol ysgafn a hawdd i’w coginio oedd i fod i swper. Yn gyntaf iogwrt a chaws feta ac yna cawl reis a thomatos. Roedd y ddau gwrs yn llwyddiannus, er efallai bod y cyntaf ychydig yn rhy drwm.

Rhagor o [...]

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (8)

Roeddem ni wedi bwriadu galw heibio i Bethesda’r Fro a’r Bont-faen wedi cinio, ond roedd hi’n edrych fel petai’n mynd i fwrw glaw. Ond cyn gwneud dim o hynny roeddwn wedi addo mynd i lan y môr i ddangos pa mor agos oeddem ni i’r arfordir. Un o’m hoff lefydd i yw Aberddawan a’r ffordd [...]

Gwibdaith i’r Fro 2003-08-03 (7)

Wrth inni ddod mas o’r Old Swan Inn fe welson ni fod torf fechan wedi ymgasglu’r tu fas i Neuadd y Dref. Roedden nhw i gyd wedi’u gwisgo yn barchus ac yn eu plith rai yn cario baneri. Fel mae’n digwydd roeddem ni wedi dod i Lanilltud Fawr ar y dydd Sul pan roedd gwasanaeth [...]

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (6)

Roedd tafarn The Old Swan Inn yn ddigon cyfeillgar a chartrefol. Roedd y byrddau a’r cadeiriau wedi’u gwasgu’n weddol agos at ei gilydd yn y bar, ond roedd y staff yn ddigon serchog a’r bwyd yn flasus dros ben. Dwi ddim yn un am y cinio dydd Sul traddodiadol – cafodd fy nghyfeillion un yr [...]

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (5)

Dywedodd DJP ei fod wedi cyfarfod â rhywun ar faes yr eisteddfod ddydd Sadwrn oedd yn darllen Blog Dogfael ac yn siomedig nad oedd lluniau o siopau Spar yn ymddangos yn gyson ar y blog bellach. Diolch byth fod Spar lleol Illtud Sant yn dal i sefyll yn Llanilltud a bod gyrrwr y car yn [...]

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (4)

Fe aethon ni i Lanilltud Fawr ar gyfer ein cinio, gan fwyta mewn hen dafarn, The Old Swan Inn, gyferbyn â Neuadd y Dref. Yn ôl y plac ar y wal roedd y lle’n dafarn cyn i’r Esgob William Morgan ddechrau meddwl am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf o brif nodweddion Llanilltud Fawr [...]

Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (3)

Er y gallwn i fod wedi aros yn Llan-fair am oriau, roedd gennym nodau eraill i’w cyflawni, a llefydd eraill Ioloaidd i ymweld â hwy. Erbyn hyn roedd rhai yn galw am eu cinio, ond cyn troi tuag at Lanilltud Fawr i chwilio am le i fwyta, roedd yn rhaid galw heibio i Drefflemin. Roeddwn [...]