Gwibdaith i’r Fro 2008-08-03 (2)

Eglwys, Llan-fair, Bro MorgannwgWedi brecwast hamddenol fe wnaethon ni groesi’r ddinas a mynd tuag at y Bont-faen a’r Fro. Cyn dod i’r Bont-faen ei hun dyma droi oddi ar y ffordd fawr a thrwy Sant Hilari tuag at Llan-fair, neu St Mary Church. Roeddwn i wedi ymweld â’r fan hon ryw ugain mlynedd yn ôl er mwyn gweld peth o waith llaw Iolo ei hun a oedd wrth ei alwedigaeth yn saer maen.

Pentref bychan tawel yw Llan-fair sy’n dwyn enw yr eglwys gyda’i thŵr trawiadol yn ei ganol. Prin nad oedd neb yn symud yno wrth inni groesi’r parc ger yr eglwys. Roedd y drws yng nghlo, ond wrth inni grwydro o gwmpas y fynwent dyma wraig yn sylwi arnom ni ac yn gofyn a oeddwn i am weld y tu fewn. Atebodd y pedwar ohonom fel côr llefaru ein bod am wneud. Ac felly fe aeth hi yn ôl i’r tŷ i nôl ei gŵr a agorodd y drysau a’n gadael ni yno am dipyn i weld beth oedd i’w weld.

Roeddwn i’n cofio fod esiampl o waith maen Iolo Morganwg i’w weld yng nghefn yr eglwys ac fe ddangosodd y dyn oedd wedi agor yr eglwys i ni ble’r oedd hwnnw i’w weld. Cofeb i ddyn yr oedd Iolo am briodi ei ferch oedd yno, sef Rees Robert ap Rees a fu farw yn 1780. Flwyddyn yn ddiweddarach yn yr un eglwys y priododd Iolo ei wraig Margaret, neu Pegi, a fu mor amyneddgar o’i holl echreiddigrwydd.

Cofeb a wnaed gan Iolo Morganwg yn eglwys Llan-fair, Bro Morgannwg

Mae gan Llan-fair le nodedig yn hanes llenyddiaeth ein gwlad gan taw yma, yn llyfrgell y rheithor Thomas Wilkins (1626-1699), yr oedd dwy lawysgrif bwysig yn byw – Llyfr Coch Hergest a Llyfr Ancr Llanddewibrefi. Yr oedd yn hynafiaethydd ac yn gasglwr llawysgrifau heb ei ail. Pan bu farw Wilkins fe wnaeth ei fab, Thomas Wilkins (1677-1736) roi y ddwy lawysgrif i Goleg yr Iesu, Rhydychen, ac mae’r gweddill yn hanes. Roedd cysylltiad agos rhwng Ysgol Ramadeg y Bont-faen a Choleg yr Iesu, ac mae’n debyg taw hynny oedd yn gyfrifol am hynny.

Er bod yr eglwys yn edrych yn hynafol iawn o’r tu fas, mae’n debyg taw brwdfrydedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw’r meini a welir amlycaf – yr unig eithriad yw’r tŵr – mae’r rhan fwyaf yn dyddio o’r adferiad trylwyr a ddigwyddodd yn 1862. Cyn gorffen efallai y dylw nodi fod yr eglwys yn dwyn enw’r Cyfarchiad i Fair, gŵyl a ddethlir bellach ar 25 Mawrth sy’n nodi ymweliad yr archangel Gabriel â Mair, mam ein Harglwydd, i ddweud ei bod yn mynd i fod yn fam i Iesu.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>