Dwi’n siŵr y dylwn i fel eglwyswr da fod wedi bod yn y Pafiliwn ar y maes y bore ‘ma er mwyn gwrando ar bregeth Archesgob Cymru a’i apêl ar i’n gofal dros ein hunaniaeth Gymreig a’r Gymraeg beidio â gwneud ni yn bobol gul yn mynnu cau rhai allan nad ydyn ni’n credu eu bod nhw’n “Gymry go iawn”. Ond dwi’n ofni taw ar y radio y gwnes i wrando arno’n pregethu, yn gywir fel yr ydw i ers blynyddoedd, yn y car ar y ffordd i grwydro ychydig ar fro’r eisteddfod.
Rhaid cyfaddef ein bod ni wedi mynd ychydig tu hwnt i’r fro honno heddiw wrth inni droi ein golygon tuag at Fro Morgannwg a rhai o’r llefydd oedd yn gysylltiedig gydag Iolo Morganwg ei hun. DML oedd wedi sôn i ddechrau am ei ddymuniad i ymweld â Threfflemin, man geni Iolo. Cytunwyd felly ar hynny ac fe wnes i ymestyn ychydig ar y daith i gynnwys rhai llefydd eraill oedd â chysylltiad ag Iolo: Llan-fair, Sain Tathan a’r Bont-faen ei hun. Roedd hi’n fwriad hefyd i alw heibio i Lanilltud Fawr.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael