Eisteddfod yn y ddinas (5) 2008-08-02
Bu raid i RO bopo mas i’r siop unwaith eto cyn swper oherwydd yr oeddwn i wedi anghofio un cynhwysyn hanfodol ar gyfer swper, sef ciwbiau stoc. Heno roeddwn i’n dechrau gyda salad tomatos syml gyda bara ffres, ac yna roeddwn i’n troi at bryd cyntaf yr wythnos oedd yn dilyn thema o’r Dwyrain Canol. Cig twrci (roedd hwnnw’n rhatach na ffowlyn yn Tesco) wedi’i goginio mewn olew a menyn gyda philaf cnau a resins gyda iogwrt fel glybwr. Fe aeth popeth yn iawn. Rhaid i mi gyfaddef, er taw fi oedd yn gyfrifol am y coginio, fy mod wedi fy siomi ar yr ochr orau. Roedd y pilaf yn flasus iawn. Cynnwys y pilaf oedd reis basmati, winwns, cnau pîn, hol-sbeis, sinamon, resins a menyn. Cefais y rysáit yn llyfr gwych Claudia Roden, Arabesque: a taste of Morocco, Turkey & Lebanon. Roedd y rysáit i’w gweld yn yr adran ar Dwrci.
Wedi’r coginio roeddwn i wedi blino’n lân a rhaid cyfaddef i mi fod yn anghymdeithasol iawn a dianc i’r gwely yn gynnar.
Yfory byddwn ni’n mynd mas am dro i Fro Morgannwg ac yn bwyta cinio ar ein taith, felly rhywbeth cymharol ysgafn fydd ar y fwydlen gyda’r nos yn Neuadd Buddug, sef Jibne wa labneh (Caws gyda iogwrt; Lebanon) ac yna Domatesli pirinç çorbasi (Cawl reis a thomato; Twrci).



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael