Eisteddfod yn y ddinas (4) 2008-08-02

Wrth i ni ddychwelyd i Neuadd Victoria roedd dau eisteddfodwr blinedig ond brwd yn disgwyl amdanom – DJP a DML. Wel, DJP oedd ynn disgwyl amdanom, a DML yn gorffwys wedi diwrnod caled o waith ar stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y maes. Roedd DJP yn gwylio criced ar y teledu yn y gegin. Yn ddiweddarach fe ddaeth hi’n amlwg nad oedd hi’n bosib gwylio S4C ar y teledu o gwbl, gan ei fod yn derbyn darllediadau digidol sy’n cael eu rheoli gan gosodwyr y sustem! Dim rhyfedd bod nifer gwylwyr S4C yn is na’r disgwyl, mae’n amhosib i rai pobol fyddai am wylio’r sianel ei gwylio yn y lle cyntaf. Dwi ddim yn gwybod beth fydd ein strategaeth i ddelio gyda hyn, ond rhaid imi gyfaddef nad ydw i am wneud rhyw lawer iawn o ffws am y peth – rydw i ar fy ngwyliau wedi’r cwbl, ac mae gorfod mynnu hawliau am weddill y flwyddyn yn gymaint o boen fel ei bod hi’n eithaf braf weithiau ddim gorfod poeni am bethau fel hyn. Efallai y bydda i’n anfon gair at swyddfa’r Eisteddfod i ddweud beth sydd wedi digwydd mewn llety yr oedden nhw wedi’i argymell… ac efallai na fydda i’n gwneud hynny chwaith. Dwi’n gobeithio y bydd rhywun arall o’r criw yn teimlo’n gryfach na fi am hyn ac yn fwy brwd a pharod i wneud rhywbeth.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 1.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>