Eisteddfod yn y ddinas (1) 2008-08-02

O’r diwedd dwi’n cael cyfle i ysgrifennu pwt ar gyfer y blog. Am amryw resymau dwi wedi bod yn hynod brysur dros yr wythnosau diwethaf; yn rhy brysur i droi at ysgrifennu’r blog yn gyson. Dwi’n siŵr i Oscar Wilde ddweud unwaith os yw rhywun yn rhy brysur i flogio ei fod yn rhy brysur! Unwaith eto dyma Wilde yn dod yn weddol agos at y gwir.

Un broblem sydd gen i ar hyn o bryd, sef nad ydy hi’n bosib imi osod lluniau ar y blog gan imi adael y weiren hanfodol ym Mhlas-yn-Dogfael. Felly bydd y lluniau yn dilyn… rhywbryd.

Gadewais Aberystwyth i fynd i’r brif ddinas am ryw 1.30pm ddoe. Roedd fy nghyfaill da RO yn rhoi lifft i mi a fy nhrugareddau. Eleni roeddwn i wedi ceisio bod yn fwy gofalus na’r arfer o ran yr hyn roeddwn yn ei gludo ar draws Cymru. Fel arfer bydda i’n mynd â llawer gormod o bethau gyda mi, ond fe es i ati’n fwriadol i gadw cymaint o bethau â phosib ym Mhlas-yn-Dogfael. A dyna’r rheswm dwi heb y weiren ar gyfer trosglwyddo’r lluniau o fy nghamera.

‘Ta beth, wedi gadael Aberystwyth fe deithion ni i lawr i Gaerdydd ar hyd yr A470 trwy’r canolbarth. Fe wnaethon ni aros mewn un man i gael hoe fach a hynny yng nghanolfan ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ger Libanus.

Roedden ni wedi cyrraedd Caerdydd erbyn rhyw 4.45pm ac yn barod i fynd i chwilio am ein llety dros gyfnod yr Eisteddfod.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 1.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>