Dwi newydd wrando ar Nicola Sturgeon, dirprwy arweinydd yr SNP a dirprwy brif weinidog yr Alban, yn siarad ar BBC Radio Scotland. Roedd hi’n gweld y frwydr yn yr isetholiad yn Glaschu fel un rhwng dwy lywodraeth – San Steffan a Holyrood – a’r canlyniad yn cadarnhau polisïau yr SNP mewn llywodraeth. Pwysleisiodd pa mor fawr oedd y duedd tuag tuag atynt hwy ac oddi wrth Lafur. Roedd hi’n amlwg ei bod hi wrth ei bodd. Roedd ei boddhad i’w glywed yn ei llais ym mhob un o’i hatebion. Mae llawer mwy o gollwyr nag enillwyr mewn gwleidyddiaeth, a dwi fel llawer wedi hen ddysgu beth yw hi i golli, ond mae ennill yn gwneud i rywun deimlo’n dda ac mae medru rhannu mewn llwyddiant yn gwneud i rywun deimlo’n dda hefyd.
-
« Hafan
-
Categorïau

![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[LinkedIn]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/linkedin.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)
Gwneud sylw