John Mason gyda Bashar Ahmad MSP a Mohammed Ashgar AC. Oddi ar flog SNP for Glasgow East.
Fe es i’r gwely yn weddol hwyr wrth fy arfer i – roedd hi wedi troi 11.00pm – os oeddwn yn mynd i godi am 6.00am fel dwi’n arfer ei wneud. Roeddwn i wedi bod wrthi’n cyfieithu ar y pryd am ryw ddwy awr a chwarter mewn cyfarfod grŵp cynghorwyr sir Plaid Cymru yn Aberaeron ac wedi cael gwledd ddigonol o wleidyddiaeth (leol) i’m cadw yn hapus am wythnos neu ddwy. Felly doeddwn ddim yn bwriadu aros ar fy nhraed i glywed canlyniad isetholiad Dwyrain Glaschu (Glasgow East). Pan oeddwn i’n iau byddwn wastad yn aros ar fy nhraed i glywed beth oedd y canlyniadau er bod hynny’n yn mynd yn erbyn profiad fy mhleidlais gyntaf erioed – refferendwm 1979 – sef bod angen cwsg ar ddyn er mwyn ymdopi gyda’r canlyniad, waeth beth yw hwnnw. O’r herwydd fe gollais i holl gyffro refferendwm 1997! Wrth i Gymru bleidleisio (o drwch blewyn) i sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol, roeddwn i’n chwyrnu’n swnllyd yn fy ngwely.
Y bore ‘ma, pan ddihunais am ryw 4.45am i wneud yr hyn y mae’n rhaid i ddyn ei wneud ar amser hynny, cefais fy nhemtio i edrych ar y rhyngrwyd i weld beth oedd y canlyniad yn Nwyrain Glaschu. Rhaid cyfaddef fy mod yn disgwyl siom – hynny yw, nad oedd plaid yr SNP wedi ennill – am taw dyna oedd yr awgrym wedi bod ar y gwefannau newyddion Llundeinig. Felly pan welais i’r penawdau ar wefan BBC SNP stuns Labour fe ddaeth y peth yn sioc i mi ddeall fod John Mason yr SNP wedi ennill y sedd gyda mwyafrif o 365 dros Lafur, gyda thuedd iddynt hwy o 22.54%. Wedi cael rhyw ennyd o deimlo’n fodlon ac yn falch, es i yn ôl i’r gwely i gysgu. Camgymeriad mawr oedd edrych ar y canlyniad. Roeddwn i wedi dihuno go iawn a doedd dim rhyw lawer y gallwn i ei wneud i dawelu fy meddyliau a mynd yn ôl i gysgu. Ar un eiliad byddwn i’n ystyried beth oedd goblygiadau hyn i gyd i Gordon Brown, a’r eiliad nesaf roedd rhyw broblem yn y gwaith yn llenwi fy meddwl. Yna yn ôl i wleidyddiaeth leol yng Ngheredigion, yna i’r gwaith, ac yna yn ôl i Glaschu.
Yn y diwedd, wedi awr a mwy o droi a throsi, penderfynais taw’r peth gorau i mi fyddai codi ac ysgrifennu rhyw bwt i’r blog i nodi’r hyn oedd wedi digwydd, gan obeithio y buasai gwneud hynny yn tawelu ychydig ar fy nghyffro. A dyna’r rheswm fy mod yn ysgrifennu hyn am ryw 6.00am.
I newyddiadurwyr Llundain y cwestiwn mawr fydd effaith y canlyniad ar safle Gordon Brown fel prif weinidog ac ar y blaid Lafur fel llywodraeth San Steffan. Dyna fydd eu prif ddiddordeb; er y mae’n bosib y bydd rhyw sylw yn cael ei roi i ganlyniad yr isetholiad o fewn cyd-destun gwleidyddiaeth yr Alban. Ond gan nad ydyn nhw’n credu fod gan eu cynulleidfa cymaint â hynny o ddiddordeb yn hynny, ychydig o sylw fydd yn ei gael mewn gwirionedd. Felly mae’n rhaid i rywun chwilio’n galetach a meddwl yn fwy dwys drosto’i hun beth fydd arwyddocâd ac effaith y canlyniad ar wleidyddiaeth cenedlaetholdeb yn gyffredinol. Ai dim ond pleidlais brotest yw’r canlyniad yn Glaschu, neu a yw’n arwydd o newid gwleidyddol sylfaenol? Cwestiwn arall sydd wedi bod yn fy nghadw i ar ddihun ers gwybod y canlyniad yw a fydd etholwyr Cymru yn cael eu temtio i weld Plaid Cymru fel plaid i fod yn gyfrwng iddynt hwy fynegi eu hanniddigrwydd hwythau â Llywodraeth San Steffan yn yr un modd o gofio fod Llywodraeth Caerdydd yn glymblaid rhyngddi hi a’r blaid Lafur.
Nawr wedi cael cyfle i ddweud hynny i gyd y gallaf fynd yn ôl i’r gwely a chael awr neu fwy o gwsg er mwyn bod yn barod ar gyfer yr fydd yn rhaid ei wneud yn y gwaith heddiw. Neu a fydd y demtasiwn i wrando ar newyddion BBC Radio Scotland dros y rhyngrwyd yn drech na mi?


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael