Lansio “Aber”
Neithiwr fe fues i mewn noson hyfryd a noson arbennig, sef lansiad “fy nghyfrol gyntaf”. Yn anffodus rydw i’n rhannu’r gyfrol gyda chwech o bobol eraill, ond o leiaf mae fy enw i yn y llyfr ac fe alla i alw fy hun yn awdur o hyn mas.
Cynhaliwyd y lansiad yng nghanolfan newydd-addasedig Arad Goch yn Stryd y Baddon, Aberystwyth, a’r llyfr oedd yn cael ei lansio oedd Aber: ysgrifau am Aberystwyth gyda ffotograffau gan Keith Morris. Y cyhoeddwyr yw Gomer a hwy oedd wedi trefnu’r noson. Gan fy mod wedi cyfrannu ysgrif at y gyfrol cefais wahoddiad i siarad “ar ran” awduron yn y gyfrol Gymraeg. Roedd y noson hefyd yn lansiad i lyfr Saesneg tebyg am Aberystwyth yn cynnwys ffotograffau gan Keith Morris ac ysgrifau gan wahanol awduron. Roedd Andrew Green, y Llyfrgellydd Cenedlaethol, yn o’r cyfranwyr at y gyfrol honno ac yntau oedd yn siarad ar ran y cyfranwyr Saesneg. Y trydydd i siarad oedd Keith Morris ei hun. Llywyddwyd y noson gan un o olygyddion Gomer, sef Bethan Mair.
Awduron yr ysgrifau yn y llyfr Cymraeg yw Catrin Beard, Dogfael, Lyn Ebenezer, Meleri Wyn James, Sioned Puw Rowlands ac Eirug Sailsbury. Mae fy ysgrif i yn sôn am grefydd yn Aberystwyth, ac yn arbennig dylanwad ac ôl Anghydffurfiaeth Brotestannaidd ar y lle. Roedd hi’n eironig fod y llyfr wedi’i lansio o fewn wythnos i losgi a dymchwel Capel Tabernacl, un o gampweithiau pensaernïol y traddodiad Calfinaidd yn Aberystwyth.
Dyma beth ddywedais i ar y noson.
Dyma’r tro cyntaf i mi sefyll o flaen cynulleidfa fel awdur a dwi’n mwynhau yn barod. I rai o’m cyd-awduron dyw hyn yn ddim byd newydd – maen nhw’n cael llyfr newydd wedi’i gyhoeddi gyda throad pob tymor. Mae’r gweddill ohonom yn forwynol eiddgar i blesio fel fi fy hunan. Yr unig beth sy’n fy mhoeni i yw sut y dylwn i ymagweddu fel awdur tuag atoch chi nad ydych yn awduron! A ddylwn fod yn ‘Catherine Cookson’, yn ‘Jilly Cooper’ neu’n ‘J D Salinger’? Sylwch sut dwi’n magu’r llyfr, oherwydd er taw Keith Morris yw’r tad, a rhywun arall yn fam, dwi’n teimlo ei fod yn blentyn i mi hefyd!
Un peth sy’n eich taro mae’n rhaid wrth weld pwy sydd wedi cyfrannu ysgrifau at Aber yw ein bod ni’n bobol sy’n wahanol iawn i’n gilydd. Ond, o ddarllen yr hyn y mae pob un ohonon ni wedi’i ysgrifennu ar gyfer y gyfrol hon, mae ‘na un peth sy’n ein huno ni. Rydyn ni’n dwlu ar Aberystwyth, ddim yn yr un ffordd wrth gwrs, fel byddan nhw’n ei ddweud yn y gogledd, “Dyw pawb ddim yn gwirioni’r un fath”, ond rydyn ni i gyd wedi gwirioni ar un lle. Mae gan Aberystwyth ryw allu rhyfeddol i hudo rhywun. Ac mae’r gallu dirgel hwnnw yn gwbl amlwg i fi oherwydd ei bod yn llwyddo i rwydo pobol fel ni – rhai ohonon ni wedi’n magu yn ei chysgod ac eraill wedi dod o bell bant.
Mae Aberystwyth yn dref sy’n llwyddo i hudo hyd yn oed pan ei bod yn eich cythruddo; dwi hyd yn oed yn dwlu ar y pethau dwi’n eu casáu am Aberystwyth. Mae ‘na ddigonedd o bethau felly yn y dref sy’n achosi i mi deimlo felly. Ond fyddai hi ddim yn ddoeth imi sôn amdanyn nhw bellach gan fy mod, trwy ryw ryfeddod – democratiaeth maen nhw’n ei alw – newydd fy ethol yn gynghorydd tref. Fy lle i bellach yw canu clodydd y dref a dim ond sôn am ei gwendidau er mwyn addo fy mod yn mynd i’w gwella.
Mae’n rhaid imi rannu un profiad gyda chi o fod allan ar y stwmp yn canfasio. Mae gwleidyddiaeth wedi newid yn fawr. Bellach dyw pobol ddim yn gofyn ichi beth yw’ch barn ar bynciau pwysig y dydd, na beth yw eich gweledigaeth ar gyfer y peth hwn a’r peth arall. Yn hytrach maen nhw’n gofyn “Beth wyt ti yn mynd i wneud er fy lles i os gei di dy ethol?” Wedi cael llond bol o’r cwestiwn hwn dwi’n ofni imi ildio i’r demtasiwn i ateb yn onest ar un stepen drws a dweud yn blaen, “Not a lot!”, gan fynd yn fy mlaen i esbonio nad oedd gan y Cyngor Tref yr awdurdod i wneud rhyw lawer iawn ei hunan, ond y byddwn yn defnyddio’r holl bwerau oedd ganddo hyd yr eithaf dros y dref.
Byddwn i am wneud cymaint ag y gallwn dros y dref. Er fy magu ym Mhreseli, ym mhlwyf Mynachlog-ddu, erbyn hyn dwi wedi byw am fwy o amser yn Aberystwyth nag unrhyw le arall a dwi’n teimlo’n gartrefol yma. Dwi’n teimlo fy mod yn rhan o’r lle. Dwi ddim yn teimlo fel dyn dŵad achos bod Aberystwyth yn dref sy’n llawn o bobol ddŵad. Wrth gwrs rhaid imi ymgrymu wrth ddod wyneb yn wyneb â’r uchelwyr sydd wedi’u geni a’u magu yma. A rhaid mewn rhyw ffordd gydnabod y ffaith eu bod nhw yn fodlon i fi gerdded ar hyd eu strydoedd hwy. Ond mae’r lle yn anwesu hyd yn oed dieithryn fel fi.
Ond un peth sy’n wir am y lle yw ei bod yn newid yn gyson, a hynny er gwell ac er gwaeth. Bu’r wythnos hon yn un o golled, wrth inni weld dymchwel Capel Tabernacl. Ar nodyn personol, mae’r rydw i wedi’i chyfrannu at y gyfrol yn ymwneud â chrefydda yn Aberystwyth, ac yn arbennig felly Anghydffurfiaeth y dref a’r modd y tyfodd y dref yr un pryd ag Anghydffurfiaeth Gymraeg, felly mae gweld adeilad fel hwnnw yn diflannu yn achos tristwch mawr. Diolch byth ei bod hi’n bosib trwy gyfrwng llyfr ac mewn gair a llun rhoi rhai o’r pethau yma sy’n mynd heibio ar gof a chadw.
Dwi’n gobeithio gwnewch chi fwynhau’r llyfr. Mae ‘na lot o hel atgofion ynddo, rhai ohonyn nhw’n ddigri a rhai’n fwy dwys; dwi’n gobeithio y byddwch chi fel darllenwyr yr ysgrifau a darllenwyr y darluniau yn cael pleser o gytuno ac o anghytuno gyda ni am beth sy’n gwneud Aberystwyth yn lle mor sbeshal.




(6 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.83 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Llongyfarchiadau ar dy gamp. Edrychwyn ymlaen at ddarllen hwn yn fuan.
Diolch i ti am dy gyfraniad i lawnsiad hynod lwyddiannus Aber, Dogfael. Prin yw’r bobl sy’n gallu difyrru cynulleidfa Gymraeg a pheri iddi chwerthin, ond rwyt ti’n un o’r rheiny. Rwyt ti’n Hywel Teifi ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain!