Pedair awr ar hugain yn ddiweddarach a dwi’n dal i fod yn llawn cynnwrf wedi canlyniad yr isetholiad yn ward Rheidol gydag Aled Davies o Blaid Cymru yn cipio’r sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Fel mae’n digwydd dwi’n byw yn ward Rheidol ers deng mlynedd a mwy a dyma’r tro cyntaf inni fod â chynghorydd sir Plaid Cymru. Yn ail roedd yn fuddugoliaeth nodedig mewn ward lle mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn gryf iawn yn y gorffennol. Wrth gwrs roedd popeth wedi mynd yn eu herbyn y tro hwn – yn cynghorydd blaenorol wedi dewis ymddiswyddo oherwydd trosedd ryw, maer Aberystwyth yn ymddiswyddo oherwydd na chafodd ei dewis yn ymgeisydd, a’r ymgeisydd a ddewiswyd yn gweithio yn Llundain am bedwar diwrnod yr wythnos. Ar ben hyn i gyd roedd ‘na ymgeisydd annibynnol yn y ward (cyn aelod o’r cyngor tref ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol). Roedd Aled Davies yn medru manteisio ar hyn i gyd gyda’i frwdfrydedd, gwaith caled a phenderfyniad. Daeth ef yn agos i gipio sedd arall yn Aberystwyth adeg etholiadau Mai 2008 ac hefyd bedair blynedd yn gynt. O’r diwedd mae wedi cael y cyfle i wneud y gwaith y mae gweithio mor galed amdano – gwasanaethu pobol Aberystwyth. Efallai nad yw pob yn sylweddoli fod Aled yn frawd i Ceredig Davies, arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Ceredigion ac aelod o’r cabinet gyda chyfrifoldeb dros addysg.
Dwi’n hoff o’r llun hwn a dynnwyd wedi i’r canlyniad gael ei gyhoeddi neithiwr. Fe’i tynnwyd gan Dr MWR a dwi’n ddiolchgar iddi hi am gael ei ddefnyddio ar fy mlog.

Elin Jones AC, Y Cyng Ellen ap Gwynn, Y Cyng Aled Davies, Y Cyng Paul James, a’r Cyng Alun Williams yn dathlu wedi buddugoliaeth Aled yn isetholiad ward Rheidol, Aberystwyth.

![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[LinkedIn]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/linkedin.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)
Gwneud sylw