Catalydd
Nawr bod gen i amser dwi’n gorfod mynd yn ôl i edrych ar beth sydd wedi digwydd dros yr wythnosau sydd wedi mynd heibio. Efallai taw’r peth mwyaf a ddigwyddodd oedd dathliad Catalydd ar faes sioe y tair sir yng Nghaerfyrddin. Gŵyl oedd hon ar gyfer eglwyswyr esgobaeth Tyddewi. Roedd wedi’i chynllunio ers blwyddyn neu ragor ac yn deillio o syniad gan yr esgob ar y pryd, y Gwir Barchedig Carl Cooper. Yn dilyn ei ymddiswyddiad, a hynny mewn amgylchiadau trist, rhaid cyfaddef fod fy mrwdfrydedd i am y digwyddiad wedi pylu ychydig. Roeddwn i wedi bod yn gweithio ar y cynllun ers dros flwyddyn gan fod yn gyfrifol am gyfieithu ar gyfer yr ŵyl – o Saesneg i’r Gymraeg, ac o Gymraeg i Saesneg. Ond wrth i’r dydd ddod yn nes roeddwn i’n bryderus am faint o bobol fyddai’n dod ynghyd a sut hwyl fyddai ar bawb.
Roeddwn i hefyd yn gofidio am y daith i lawr i Gaerfyrddin. Roeddwn i wedi archebu sedd ar y bws o blwyf Aberystwyth ond dwi ddim yn un sy’n teithio’n dda iawn. Ond fel mae’n digwydd fe aeth popeth yn iawn. Ar y daith i lawr wrth gyrraedd Aberarth fe ymddangosodd bwa’r arch dros y môr. Mae Cristnogion yn gweld bwa’r arch, neu’r enfys, fel ernes o gariad Duw a’i fendith ac fe wireddwyd hynny ar y dydd.
Wedi inni gyrraedd Caerfyrddin roedd gen i waith i’w wneud. Addewais roi cymorth gyda’r cyhoeddi dros yr uchelseinydd ac fe dreuliais rhyw ddwy awr a hanner yn gwneud hynny yn ystod y dydd. Roedd yn dipyn o hwyl. Wrth eistedd yno yn y babell gyhoeddi roedd nifer yn galw heibio am sgwrs fer. O ganlyniad wnes i ddim llwyddo i weld popeth oedd yn digwydd, ond fe gefais gyfle i fynd i sesiwn gyda Chris Needs, ac un arall gyda Royal School of Church Music. Ac fe wnes i fynd i’r gwasanaeth i gloi yn y neuadd fawr ar y maes gydag Archesgob Cymru yn pregethu.
Fel y dywedais roeddwn i’n mynd yno yn betrusgar, ond er gwaetha’r tywydd, fe wnes i fwynhau’n fawr ac roedd yn ddathliad teilwng o’n bywyd ni fel Cristnogion esgobol yn Nhyddewi.






(3 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.33 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael