Buddugoliaeth!

Aled Davies
Aled Davies o Blaid Cymru, cynghorydd sir newydd ward Rheidol, Aberystwyth

Dwi’n gwybod bod fy mlog wedi bod yn dawel iawn dros yr wythnos neu ddwy a aeth heibio.. Y rheswm am hynny wrth gwrs yw fy mod wedi bod yn brysur yn gwneud pethau eraill. Un o’r pethau hynny oedd bod yn rhan o’r tîm yn gweithio dros Aled Davies yn isetholiad cyngor sir ward Rheidol. A dwi newydd glywed fod yr holl waith a wnaeth Aled a’i gefnogwyr wedi dwyn ffrwyth. Mae Plaid Cymru wedi cipio sedd cyngor sir Rheidol oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd y sedd yn arfer bod yn un cwbl ddiogel i’r Dem Rhyddiaid, ond ddim bellach.

Dyma’r canlyniad.

Aled Davies PLAID CYMRU 271
Alec Dauncey LIB DEM 252
Carol Ann Kolczak ANNIBYNNOL 98
Richard Boudier LLAFUR 36
Luke Evetts TORI 17

Dwi’n gobeithio y bydda i’n cael mwy o amser i flogio dros yr wythnosau nesaf wrth baratoi at yr eisteddfod a thallu.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (4 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

3 sylw ar Buddugoliaeth!

  • Boris

    Bendigedig – mae Aled yn llawn haeddu pob un o’i bleidleisiau.

    Wrth gwrs, y cwestiwn mawr nawr yw a fydd Alec ‘Dick Whittington’ Dauncey yn dychwelyd i Lundain?

    Diolch i Dogfael am dorri’r newyddion erbyn amser brecwast a diolch hefyd i Carol Ann Kolczak y cyn Lib Dem am sefyll yn Annibynnol y tro hyn. Beth am i’r Blaid ei hanrhydeddu drwy ofyn iddi agor ein Ffair Nadolig eleni.

  • Mair Jones

    Diolch Dogfael am gael manylion y newyddion hyn ar dy flog. Wedi chwilio safle’r BBC a safle’r Cyngor Sir ond d’oes dim son am is-etholiad hyd yn oed, heb son am ganlyniad mor wych! Pob hwyl i Aled!

  • Huw

    LLongyfarchiade i Aled – bydd e’n gynghorydd da …. ac mae digon o waith i’w wneud yn y ward ‘fyd!

    Dwi’n hoff o Alec y LibDem, mae’n foi deallus, ond wel, dyna ni – mae bywyd yn greulon. Oedd, redd lot o lwc o blaid y Blaid tro yma ac roedd ganddom ni’r ymgesiydd gorau hefyd. Mae’n profi mai dim ond mewn ras dau geffyl gall y LibDems guro PC.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>