Amser cinio ddoe fe fues i’n glust-dyst i un o’r dadleuon difyrraf i mi eu clywed ar Taro’r Post Radio Cymru erioed. Y ddau yn dadlau oedd y Dr Bruce Griffiths, un o olygyddion Geiriadur yr Academi, ac Efa Gruffudd Jones (am ryw reswm dwi wastad am ychwanegu ‘Llanddowror’ at ei henw!), prif weithredwr Urdd Gobaith Cymru. Y mater o dan sylw oedd enw ymgyrch ddiweddaraf y mudiad ieuenctid, ymgyrch i dynnu sylw at ymrwymiad amgylcheddol y mudiad, sef “Urdd Gwyrdd”. Roedd yr ergyd gyntaf wedi’i thanio gan y Dr Bruce ar dudalen llythyron Golwg yr wythnos ddiwethaf.
Gwelaf fod Urdd Gobaith Cymru wedi cychwyn ymgyrch amgylcheddol dan y enw “Urdd Gwyrdd”. Dyna enw hollol anghywir. Enw benywaidd yw urdd ac felly “Urdd Werdd” yn unig a fyddai’n gywir. Ni all fod ond dau reswm tros yr anghywirdeb cywilyddus hwn:
1. Ni wyddai bathwr yr enw, na neb o’r rhai a’i cymeradwyodd, beth oedd cenedl enw’r mudiad yr oeddent yn rhan ohono – ac ni aeth neb i’r drafferth o edrych mewn unrhyw eiriadur – anwybodaeth druenus.
2. Fe wyddid cenedl yr enw, ond yr oedd yn well cael yr odl, ac i’r diawl â chywirdeb y Gymraeg. Agwedd anfaddeuol a gwaeth nag anwybodaeth, ar ran mudiad sy’n brolio ei fod yn hyrwyddo’r Gymraeg.
Pa esboniad sy’n gywir?
Bruce Griffiths
Bangor
Nawr mae unrhyw un sy’n ei adnabod yn gwybod nad dyn i’w gymryd yn ysgafn yw’r Dr Bruce Griffiths. Mae’n amlwg fod rhywun wedi dweud hyn wrth Efa Gruffudd Jones oherwydd fe geisiodd ddechrau trwy ddangos ei pharch i’r Dr Bruce a datgan nad oedd hi’n medru cystadlu gyda’i wybodaeth am ramadeg y Gymraeg. Ond yna fe aeth ati i amddiffyn penderfyniad yr Urdd heb unrhyw gywilydd o gwbl! Roedd brwdfrydedd Gruffudd yn rhyfeddol o gofio ei bod i bob pwrpas yn amddiffyn rhywbeth anamddiffynadwy. Ond ni wnaeth hynny ei hatal rhag dadlau ei bod hi’n ddyletswydd ar yr Urdd i sicrhau bod ei haelodau yn deall beth oedd yn cael ei ddweud ac fe ddywedodd ei bod hi’n ormod i ddisgwyl blentyn 8 oed ddeall “gwerdd”. Bwriad yr Urdd oedd creu slogan mewn iaith glir, syml a dealladwy. A beth bynnag, roedd pobol yn meddwl am yr Urdd fel mudiad ac yn mabwysiadu cenedl y gair “mudiad” ac felly roedd hi’n gwbl iawn i ddweud “Urdd Gwyrdd”.
Tra’r oedd Efa Gruffudd Jones yn siarad roedd llais y Dr Bruce Griffiths i glywed nawr ac yn y man yn mynnu dro ar ôl tro fod yr hyn yr oedd yr Urdd yn ei wneud yn “anghywir”. Pan ddywedodd Efa Gruffudd Jones fod yr Urdd “yn gryf o blaid y Gymraeg”, dyma lais y Dr Bruce Griffiths i’w glywed fel eco yn dweud fod yr Urdd “yn gryf o blaid Cymraeg anghywir”. Pan ddechreuwyd dadlau dros genedl “Urdd” fe alwodd y Dr Bruce Griffiths sylfaenydd y mudiad, Syr Ifan ab Owen Edwards, yn dyst o blaid yr erlyniad. Pan fynnodd Efa Gruffudd Jones fod Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru wedi’i rhannu lawr y canol ar y mater, fe gynigiodd y Dr Bruce Griffiths dystiolaeth ei wraig oedd yn dilyn y ddadl yn agos ac yn gwybod taw dim ond lleiafrif bach iawn oedd yn amddiffyn safbwynt yr Urdd.
Felly, pwy enillodd? Dwi’n digwydd cytuno gyda’r Dr Bruce Griffiths yn y ddadl hon, ond mae’n rhaid cyfaddef imi edmygu ymdrechion Efa Gruffudd Jones i amddiffyn penderfyniad (anghywir) yr Urdd, yn union fel cynrychiolydd Llafur ar ôl isetholiad Crewe a Nantwich, neu Henley-on-Thames, yn fodlon ceisio amddiffyn ei blaid yn wyneb yr hyn a oedd yn amlwg i bawb. Roedd dyn hefyd yn lled-edmygu chwtspa (chutzpah) y prif weithredwr wyneb yn wyneb ag un o’n prif eiriadurwyr yn ceisio amddiffyn “Cymraeg anghywir” fel “Cymraeg clir”. Roedd y Dr Bruce Griffiths wedi cyhuddo’r Urdd o fod yn rhy ystyfnig i wrando neu newid ei meddwl – dyma’r prawf o hynny, mae’n siŵr!
Prin yw’r dadleuon ar Radio Cymru sy’n defnyddio Geiriadur Prifysgol Cymru yn dystiolaeth mewn dadl, ond dyma wnaeth y ddau yn y ddadl hon. Diolch iddyn nhw am eu cyfraniadau gwych.
I weld dadlau’r cyfieithwyr ewch i wefan y drafodaeth.


(3 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.67 allan o 5)![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)
Sylwadau 3
Dechreuais i edefyn biti hwnnw ar faes-e, cer draw idd’i weld e. Own i’n ffilu credu pwy mor surbwch mae Dr Bruce Griffiths yn gallu bod- fyswn i ddim yn lico croesi cleddyfau gyda fe. Wi’n credu i Efa ddala ei thir yn eitha da - druan ohoni.
Postiwyd 01 Gor 2008 am 21:53 ¶Dwi’n cytuno ‘da Efa, ac mae Urdd Gwyrdd yn odli hefyd. Mae’n gliriach a faint o bobl sy’n dweud werdd bellach. Gadewch iddo farw.
Mae Bruce yn ramadegol gywir ond mae’r urdd gwyrdd yn gweithio ac yn trosglwyddo’r neges yn gliriach.
Postiwyd 02 Gor 2008 am 12:43 ¶Diolch am dynnu sylw at y ddadl hon. Dwi’n sgwennu traethawd am ddyfodol yr iaith Gymraeg, ac efallai byddaf yn sôn amdani, fel enghraifft o bobl ddefnyddio Cymraeg is-safonol yn fwriadol.
Mae “Urdd Gwyrdd” yn swnio’n cwl i blant, dwi’n siwr, ond credaf y byddai Syr Ifan ab Owen Edwards yn troi yn ei fedd wrth glywed am hyn!
Postiwyd 04 Gor 2008 am 6:16 ¶Gwneud sylw