Pethau’n ddu ar Alun Cairns?

Alun CairnsDyw pethau ddim yn edrych yn dda iawn i Alun Cairns wrth iddo ymladd i gadw ei le fel ymgeisydd seneddol y Torïaid ym Mro Morgannwg. Petai’n ymgeisydd yn Llundain, yn hytrach nag mewn ardal ddiarffordd fel y Fro mae’n siŵr y buasai wedi gorfod rhoi’r gorau iddi’n barod. Byddwn hefyd yn fodlon dadlau y byddai’r chwip Torïaidd wedi’i dynnu oddi arno yn y Cynulliad Cenedlaethol hefyd. Y rheswm dros ddweud hynny yw’r ffordd y mae’r blaid Geidwadol wedi mynd i’r afael ag achos James McGrath, yr ymgynghorydd arbennig i Boris Johnson, maer Llundain. Dyma sut mae’r newyddiadurwr Marc Wadsworth yn adrodd yr hanes yn y Guardian ar-lein.

When I put to McGrath that an influential black columnist for the Voice newspaper suggested that older Caribbeans in London might want to go back to the islands from which they came after Johnson’s election, surely the right response was for him to have said: “Neither Boris Johnson nor I would want that. Black people are an important and valued part of London and we want them to stay.”

Instead, the arrogant apparatchik, who is himself an immigrant from Australia, snapped: “Well, let them go if they don’t like it here.” I was flabbergasted. Hadn’t such talk from a public servant gone out of fashion decades ago?

Mae hyn yn fater sensitif iawn i’r blaid ar hyn o bryd wrth iddi geisio sicrhau ei safle a phrofi unwaith ac am byth ei bod wedi newid. Mae unrhyw awgrym o ‘hiliaeth’ yn mynd i gael ymateb pendant gan yr arweinyddiaeth sydd am wneud argraff: “edrychwch arnom ni yn delio gyda hyn yn bendant, dyma’r prawf ichi gredu ein bod ni wedi newid.”

Ar sail yr ymateb i James McGrath dwi ddim yn credu bod pethau’n edrych yn dda i Alun Cairns. Ond mae’n bosib y bydd dau beth yn cael dylanwad ar ei ffawd.

Dwi wedi cyfeirio at y cyntaf yn barod, sef y ffaith i hyn i gyd ddigwydd yng Nghymru lle nad oes gan newyddiadurwyr ‘go iawn’ Llundain ddim diddordeb ynddo o gwbwl.

Yn ail, cyfeiriodd Alun Cairns ei sylwadau hiliol tuag at y gymuned Eidalaidd yn hytrach na phobol dduon o dras y Caribî fel McGrath. Nid yw’r grŵp cyntaf wedi gorfod amddiffyn eu hunain yn aml iawn yn erbyn sylwadau o’r fath, tra bod yr ail grŵp wedi gorfod gwneud hynny’n gyson am hanner can mlynedd a mwy ac maen nhw’n parhau i wneud. Am eu bod yn dal i frwydro yn erbyn hiliaeth bob dydd mae ganddynt y rhwydweithiau mewn lle i sicrhau eu bod yn medru ateb yn ôl yn effeithiol a chael dylanwad, yn arbennig felly ar arweinwyr plaid sydd yn ceisio eu gorau i brofi eu bod nhw wedi newid yn llwyr.

Ac os yw’n gorfod sefyll lawr fel ymgeisydd seneddol, beth nesaf?

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>