Llafur yn fethdalwyr?

Dwi ddim yn un sy’n darllen y papurau Sul fel arfer heblaw am yr atodiadau teithio a busnes. Ond roedd ‘na un stori fawr yn yr Observer heddiw wnaeth dynnu fy sylw, sef awgrym fod y Blaid Lafur Brydeinig, New Labour, ar y ffordd i dre-din. O dan y pennawd Labour heads for financial collapse mae golygydd gwleidyddol y papur, Gaby Hinsliff, yn adrodd am broblemau’r blaid sydd â dyledion o £24m. Awgrymir taw un o’r rhesymau y penderfynodd y blaid i beidio â sefyll yn yr isetholiad yn erbyn David Davis oedd nad oedd ganddi’r £70,000 wrth law i dalu am yr ymgyrch. Nawr dwi’n siŵr ei bod hi’n demtasiwn i elynion gwleidyddol gymryd pleser yn hyn, ond mae’r risg i ddemocratiaeth yn fawr iawn os yw ei sefyllfa ariannol mor argyfyngus. Er mae’n debyg y gallai rhywrai ateb a dweud byddai diflaniad y blaid Lafur ddim yn gwneud cymaint â hynny o wahaniaeth gan ei bod wedi treulio llawer o’r deng mlynedd diwethaf yn ceisio bod mor debyg i’r Blaid Dorïaidd â phosib. Mae’n bosib hefyd bod rhyw elfen yn hyn i gyd i geisio cael yr undebau llafur cefnogol i roi eu dwylo yn eu pocedi cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>