Wedi gwasanaeth y Cymun Bendigaid y bore ‘ma bues i yng ngwesty Llety Parc er mwyn cael cinio dydd Sul. Roeddwn i a DML wedi cael lifft yno gan ein cyfaill caredig RO. Y rheswm am fynd i Lety Parc oedd am fod y cinio dydd Sul yn rhan o ymgyrch Pwyllgor Apêl Llanbadarn Fawr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010 i godi arian. Roedd rhyw 50 a mwy yno i gael cinio. Cefais i bysgod fel fy mhrif gwrs a phwdi roli-poli jam yn bwdin. Wedi cinio cafwyd araith ddifyr gan y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd teledu John Hefin.
-
« Hafan
-
Categorïau


![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[LinkedIn]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/linkedin.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)
Gwneud sylw