Gweld Aberystwyth o bersbectif gwahanol

Mae bod yn gynghorydd tref yn medru newid persbectif dyn ar fywyd. Os oeddwn i’n arfer bod yn un oedd yn cerdded o gwmpas yn edrych lan dwi’n ofni bod fy llygaid wedi eu troi tuag at i lawr yn aml iawn bellach. Does gen i fel cynghorydd dim rheolaeth o gwbwl dros yr haul, y cymylau, a’r ffurfafen, ond mae’r pafin yn fater arall yn gyfan gwbl. Nawr dwi’n gweld yr holl sothach y mae pobol ac anifeiliaid yn eu taflu neu’n ei adael o gwmpas – dom ci, olion bwyd cyflym, sachau duon wedi eu gosod allan yn rhy gynnar. Dim rhyfedd bod rhai gwleidyddion yn mynd i eithafion i anghofio am hyn i gyd!

Sbwriel, Aberystwyth

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Gweld Aberystwyth o bersbectif gwahanol

  • Dim i’w wneud â’r cofnod blog uchod, ond newydd ddod ar draws cofnod ar flog hynod ddifyr o’r enw Strange Maps, sy’n sôn am gynnig (dwn i’m pa mor debygol) o sefydlu corridor ieithyddol yng Ngwlad Belg i uno dinas Brwsel gyda rhan Ffrancoffon y waldwriaeth. Sylwadau difyr hefyd ynglyn ag agweddau pobl at ddwyieithrwydd/siaradwyr iaith leafrifol – nid yn rhy anhebyyg i farn yng Nghymru.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>