Maer newydd Aberystwyth

Sue Jones-DaviesCafodd Sue Jones-Davies ei hethol yn faer Aberystwyth heno, yn dilyn wythnosau o ansicrwydd. Nid dim ond yn San Steffan neu ym Mae Caerdydd mae ‘na bethau cyffrous yn digwydd. Heno yr oedd Cyngor Tref Aberystwyth yn gorfod trafod y tro diweddaraf ym mywyd gwleidyddol y dref wythnos ers i Lorrae Jones-Southgate ymddiswyddo fel maer.

Yn eironig ddigon y dirpwy-faer, aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, oedd yn y gadair ar gyfer y drafodaeth ar y sefyllfa. Roedd gan bob un ohonom gopi o lythyr y cyn-faer yn ein llaw wrth inni wrando ar y ddadl fer iawn ar y sefyllfa. Mynegodd y cynghorydd a oedd wedi cynnig ei henw yn y cyfarfod diwethaf o’r cyngor ei siom gyda’r hyn oedd wedi digwydd a’n bod ni erbyn hyn yn chwilio am ei holynydd. Condemnio y modd yr oedd gwleidyddiaeth fewnol plaid wedi goferu ac effeithio enw da Cyngor Tref Aberystwyth. Roedd y Dem Rhyddiaid yn dawel iawn – ac roedd pawb arall yn eu gwylio â llygad barcud i weld a fyddai unrhyw dystiolaeth o’r rhwygiadau mewnol yn dod i’r amlwg. Ceisiodd un o’r Dem Rhyddiaid ddweud fod y Cambrian news wedi ystumio’r stori a chamddyfynnu sylwadau Lorrae yn y papur. Nododd pawb nad oedd gan Gyngor Tref Aberystwyth hyd yn oed awdurdod dros beth oedd y Cambrian news yn ei gyhoeddi. Wedyn safodd y Cynghorydd Alun Williams, Plaid Cymru, ar ei draed i gynnig enw y Cynghorydd Sue Jones-Davies, Plaid Cymru, i fod yn faer. Eiliodd y Cynghorydd Mark Strong. Roedd pawb yn edrych yn weddol unfryd a hapus i fod wedi dod o hyd i ffordd arall o’n trafferthion.

Ond jyst cyn i’r bleidlais gael ei chynnal dyma un o aelodau newydd y Dem Rhyddiaid yn cynnig enw’r dirprwy-faer i fod yn faer. Ni wnaeth neb ei chefnogi. Felly rhoddwyd enw Sue i bleidlais, ond ar ganol y bleidlais dyma’r un cynghorydd yn troi at Sue a gofyn iddi pa mor ymrwymedig oedd hi i wneud swydd y maer. Edrychodd Sue yn ôl arni yn eofn, fel yr oedd hi’n iawn iddi wneud, a holi “What do you mean by commitment?” A’r eiliad honno nododd rhywun fod pleidlais yn cael ei chymryd ac nad oedd mwy o drafod i fod. Roedd wynebau’r Dem Rhyddiaid yn dangos eu bod nhw’n falch iawn fod y drafodaeth ar ben ac nad oedd cyfle i’w cynghorydd hwy wneud mwy o lanastr o bethau.

Mewn llai na chwarter awr roedd y cyfarfod arbennig o Gyngor Tref Aberystwyth ar ben. Ar y wyneb mae popeth yn ymddangos yn iawn bellach, ond oddi tan y wyneb mae ‘na anniddigrwydd mawr i’w deimlo ymhlith y Dem Rhyddiaid. Yn y cyfarfod o’r pwyllgor cyllid a oedd yn dilyn roedden nhw’n fywiog iawn ond dwi’n teimlo taw bywiogrwydd nerfusrwydd oedd e’r tro hwn. Gobeithio y bydd yn rhaid iddyn nhw fyw ar eu nerfau am dipyn.

Bydd y llythyr ymddiswyddo yn y Cambrian news ddydd Mercher mae’n siwr, ond nad wyt ti’n medru aros tan hynny gelli ddarllen llythyr Lorrae Jones-Southgate ar flog y Cyngorydd Alun Williams.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Maer newydd Aberystwyth

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>