Addas i fod yn AS? Addas i fod yn AC?

Alun CairnsMae’n bosib bod darllenwyr cyson y blog yn gwybod yn gwybod yn barod nad oes gen i lawer o amynedd gydag Alun Cairns AC. Efallai bod y ffaith ei fod yn Dori o Glydach yn rhywbeth i’w wneud â’r peth; mae’r ffaith ei fod wedi bod yn gweithio i Lloyds TSB hefyd yn cyfri yn ei erbyn yn fy meddwl i – dyna yw fy manc innau ac mae meddwl bod fy arian wedi bod yn mynd i’w dalu ef yn uniongyrchol yn broblem arall. Wrth gwrs, fel aelod cynulliad, mae fy arian yn parhau i’w dalu i wneud ei waith!

Pan glywais i am ei ffopa ar raglen Dau o’r Bae ar Radio Cymru mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod wedi ymroi i schadenfreude – pleser dymunol iawn ond rhywbeth i’w gadw’n gyfrinachol ar y cyfan dwi’n teimlo. Mae gweld Tori yn cael ei haeddiant wastad yn bleserus, ond yn fwy fyth yn yr achos hwn. Efallai taw uno’r rhesymau fy mod yn teimlo mor eithafol yn yr achos hwn yw am fy mod hefyd yn feirniadol iawn o’r ffaith ei fod yn defnyddio ei safle fel fel aelod cynulliad fel ffordd o sefydlu ei hun fel ymgeisydd ar gyfer bod yn aelod o senedd San Steffan.

Dwi’n deall yn iawn fod rhai am fod yn aelodau yn San Steffan, ac mae angen i Gymru gael ei chynrychioli yno tra bo’r corff hwnnw â grym dros benderfyniadau tyngedfennol yng Nghymru, ond mae credu bod hynny’n rhagori ar fod yn aelod cynulliad yn siomedigaeth ac yn fy ngolwg i yn dangos nad yw’r Torïaid wedi newid o gwbl. Mae’n debyg iawn i arfer y ddeunawfed ganrif o weld apwyntiad fel esgob yng Nghymru fel ffordd i gyrraedd rhywle gwell a hynny pan oedd Torïaeth yn ei hanterth.

Eto i gyd, ar ôl dweud hynny, mae’n ymddangos y gall dalu pris trwm am ei drosedd. Iddo fe mae’n siŵr taw bod yn aelod seneddol yw prif nod mewn bywyd. Fel gwleidydd unoliaethol mae’n debyg taw bod yn aelod o senedd yr undeb yw pen ei uchelgais – oni bai ryw ddydd y bydd cyfle i fod yn llywodraeth y deyrnas honno. Felly mae’n edrych yn debyg y bydd ei freuddwyd yn deilchion os yw ymchwiliad y Blaid Geidwadol yn mynd i’w gael yn anaddas i fod yn ymgeisydd seneddol. Os felly mae ‘na gwestiwn arall; os y’i ceir yn anaddas i fod yn ymgeisydd seneddol a ddylai fod yn aelod cynulliad?

Ac mae hyn i gyd wedi digwydd oherwydd iddo ddefnyddio dau air mas o’u lle ar raglen radio. Ar yr olwg gyntaf mae’n ymddangos y gallai’r ‘gosb’ fod yn anghymesur. Er na wnes i glywed y rhaglen mae’r adroddiadau yn gytûn taw sylwadau tafod ym moch oedd rhai Alun Cairns. Sylw ffwrdd â hi mewn trafodaeth ar bêl-droed ar raglen wleidyddol. Rhyw ysgafnder wedi trafodaeth ddifrifol am y peth hwn a’r peth arall. Onid yw ymateb yn ddifrifol i sylwadau o’r fath yn dangos pa mor brin o hiwmor a gor-ddifrifol yr aeth gwleidyddiaeth.

Dwi’n siŵr fod yr hyn sydd wedi digwydd yn profi unwaith ac am byth fod gwleidyddion yn llwyth cwbl ar wahân i weddill cymdeithas. Byddai’r gweddill ohonom ond yn rhy barod i chwerthin a gweld y jôc. Ond na, mae’n rhaid i bobol fel yr aelodau seneddol Wayne David a Chris Bryant wneud pwynt gwleidyddol. Fel ‘na mae gwleidyddion – dydyn nhw ddim yn gwybod beth yw joc.

Ond mae’n amlwg fod pethau ychydig yn fwy difrifol na hynny gan fod cyflwynydd Dau o’r Bae, Vaughan Roderick, wedi sylweddoli fod rhywbeth o’i le ar unwaith yn yr hyn a ddywedwyd ac wedi rhoi’r cyfle i Alun Cairns ymddiheuro. Fe gymerodd y cyfle hwnnw yn ôl yr adroddiadau, ond erbyn hynny roedd hi’n rhy hwyr. Roedd y drwg wedi’i wneud. Yn yr oes hon nid yw defnydd o iaith hiliol yn dderbyniol gan wleidydd, hyd yn oed mewn ymdrech i fod yn ysgafn ac yn fwy tebyg i bobl ‘gyffredin’.

Dwi ddim yn adnabod Alun Cairns, ond dwi’n fodlon derbyn yr hyn y dywedodd y cyn-AC Ron Davies amdano, “I know there isn’t a racist bone in his body.” Mae’n wir bod Ron Davies wedi mynd yn ei flaen i ddweud, “These comments he has made are inexcusable but we have to put them in the context of what was a light-hearted discussion around football and was meant, I’m sure, as laddish humour.” Y cwestiwn yw hyn, a yw sylwadau o’r fath yn dderbyniol mewn unrhyw gyd-destun, hyd yn oed un ysgafn. Neu, a ydyn nhw yn fwy peryglus mewn sefyllfa o’r fath am eu bod yn gwneud pwnc difrifol fel hiliaeth yn destun sbort, ond nid trwy ei gondemnio ond wrth fod yn rhan ohono.

A nawr mae’r blaid Dorïaidd ei hun yn cynnal ymchwiliad i fewn i addasrwydd Alun Cairns i fod yn ymgeisydd seneddol. Digon teg. Ond yr hyn sy’n codi ar unwaith yw addasrwydd Alun Cairs i fod yn aelod cynulliad. Os yw hyn yn ddigwyddiad digon difrifol i wneud ddyn nhw amau gallu Alun Cairns i wneud swydd aelod seneddol yn iawn, mae’n rhaid gofyn wedyn a yw’n medru parhau fel aelod cynulliad.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>