Protest David Davis yn “wastraff arian”?

Fe wnaeth Blog Aber Dar dynnu sylw at fy nisgrifiad o weithred David Davis fel “gwastraff arian” yn ei sylw ar fy nghofnod “Beth mae David Davis yn ei wneud”, ac fe holodd gwestiwn digon teg “Ai wyt ti’n gwneud yr un peth pan fod Cymdeithas yr Iaith (neu unrhyw grŵp arall mi wyt ti’n cefnogi) yn cynnal Protest yn Aberystwyth neu lle bynnag?”

Rhaid imi ddweud na fuaswn i am atal neb rhag protestio a hynny mewn unrhyw ddull di-drais sydd ar gael iddynt wneud hynny. Ond dwi’n methu gweld llawer iawn o debygrwydd rhwng protest gan fudiad fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ag un gan lefarydd yr wrthblaid ar faterion cartref. Yn bennaf am fod y gwleidydd wedi dewis y ffordd wleidyddol o weithredu yn hytrach na ffordd protest – mae ef wedi ymrwymo ei hun i yn llwyr ganlyniad y bleidlais, ac nid fel yr hen Sinn Féin a oedd am gadw’r bleidlais mewn un llaw a’r dryll yn y llall.

Ond dwi’n gweld ei weithred fel “gwastraff arian” hefyd am ei fod yn perthyn i blaid sydd wedi bod yn feirniadol iawn o geisio amddiffyn hawliau sifil trwy ddeddfwriaeth fel y Ddeddf Hawliau Dynol neu trwy’r Cytundeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Bwriad Cameron yw dileu’r Ddeddf, a gosod Datganiad o hawliau a chyfrifoldebau yn ei lle, a yna negodi eithriadau i’r Cytundeb Ewropeaidd. Y canlyniad, a’r bwriad yn ôl a ddeallaf i, bydd gosod hawliau sifil yn ôl yn y cyd-destun gwleidyddol uniongyrchol gan sicrhau taw dim ond yr hawliau hynny y mae’n gyfleus i’r wladwriaeth eu caniatáu i’w dinasyddion fydd ar gael iddynt. Yn ei araith ar y pwnc yn 2006 mae’n sôn am egwyddorion mesur o’r fath ac mae’n amlwg taw ystyriaethau y gwleidydd fydd yn penderfynu hawliau pwy fydd yn cael eu hamddiffyn – bydd pobl ‘dda’ yn haeddu hawliau, a phobl ‘ddrwg’ ddim.

Bryd hynny, pan fydd David Cameron yn brif weinidog, bydd 42 diwrnod David Davis ddim mor ’sanctaidd’ â hynny. Egwyddorion y Daily mail fydd yn parhau i yrru’r agenda wleidyddol.

Bryd hynny hefyd, yn fy marn i, bydd gweithred ‘aberthol’ David Davis wrth ail-sefyll etholiad am ei sedd seneddol yn ymddangos yn fwy tebyg i wastraff arian nag i’r brotest egwyddorol y mae ef yn gobeithio y bydd hi.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>