Mae’n rhaid ei bod hi’n dymor ar gyfer ymddiswyddiadau gwleidyddol, o leiaf yn Aberystwyth a Haltemprice a Howden. Efallai taw fasiwn yw hyn, ond mae’n rhyfedd sut mae ymddiswyddo yn medru digwydd am bob math o wahanol resymau. Dwi’n ofni nad ydw i’n gweld llawer o bwynt i’r hyn mae David Davies yn ei wneud. Ar y wyneb mae’n ymddangos yn benderfyniad egwyddorol gan ddyn o argyhoeddiad. Ond beth fydd e’n llwyddo i’w wneud yn y diwedd?
Ffotgraff gan Steve Spunter. Rhennir o dan drwydded Creative Commons.
Mae David Davies yn mynd i ail-ennill y sedd, ac mae e’n mynd i ail-ennill yn hawdd – yn arbennig gan fod y Lib Demiaid wedi penderfynu’n barod i beidio â rhoi ymgeisydd yn ei erbyn. Does dim llawer o stori yn hynny mewn gwirionedd. Flynyddoedd yn ôl bellach (dwi’n mynd yn hen) digwyddodd rhywbeth tebyg pan ymddiswyddodd holl aelodau seneddol unoliaethol gogledd Iwerddon er mwyn protestio yn erbyn rhyw gytundeb neu’i gilydd gyda’r Weriniaeth. Ond y cyfan a ddigwyddodd oedd iddyn nhw i gyd gael eu hail-ethol. Roedden ni’n gwybod beth roedden nhw’n ei feddwl o’r cytundeb cyn ymddiswyddo, ac roedden nhw’n meddwl yr un peth wedi eu hail-ethol. Roedd y cyfan i mi yn ymddangos fel gwastraff arian. Ai dyna fydd canfyddiad pobl o ‘aberth’ David Davies?
Mae cadw pobl o dan glo am 42 diwrnod heb eu cyhuddo yn beth cwbl annerbyniol mewn gwladwriaeth ddemocrataidd ac mae David Davies yn iawn i deimlo’n gryf am y peth. Ond a fydd ei brotest yn llwyddo i wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Byddai rhai yn dweud taw gweithred sumbolaidd yw hon ac mae yn hynny fydd ei gwerth, sef tanlinellu’n eglur difrifoldeb yr hyn sydd wedi digwydd. Ond mae rhywrai’n sôn yn barod efallai na fydd y blaid Lafur yn gosod ymgeisydd yn ei erbyn chwaith. Wedyn fe fydd yr isetholiad yn dipyn o ffars wrth i David Davies geisio canolbwyntio ar ymgyrch o blaid amddiffyn hawliau sifil sylfaenol yn wyneb ymgeiswyr o bleidiau fel UKIP, BNP a’r Monster Raving Loony Party.
Dyma ei sylwadau wrth ymddiswyddo fel y cawsant eu cofnodi yn y Guardian.
“… 42 days is the one most salient example of the insidious, surreptitious and relentless erosion of fundamental British freedom.
“And we will have shortly the most intrusive identity card system in the world. A CCTV camera for every 14 citizens, a DNA database bigger than any dictatorship has, with thousands of innocent children and millions of innocent citizens on it.
“We have witnessed an assault on jury trials, a bolt against bad law and its arbitrary use by the state.
“And shortcuts with our justice system, which will make our system neither firm nor fair and a creation of a database state opening up our private lives to the prying eyes of official snoopers and exposing our personal data to careless civil servants and criminal hackers.
“The state has security powers to clamp down on peaceful protest and so-called hate laws to stifle legitimate debate, whilst those who incite violence get off scot-free.
“This cannot go on, it must be stopped, and for that reason today I feel it is incumbent on me to take a stand.”
Gallaf ddweud fy mod i’n cytuno â’r rhan fwyaf o’r hyn mae’n ei ddweud er nad ydw i’n deall yn iawn beth yw arwyddocâd yr ymosodiad ar “so-called hate laws to stifle legitimate debate”. Ond dwi heb gael fy argyhoeddi y byddai llywodraeth Dorïaidd yn ymddwyn yn wahanol iawn ar nifer o’r pwyntiau hyn. Ac mae’n rhaid gweld rhyw arwyddocâd yn y ffaith nad yw David Cameron wedi addo dadwneud y polisi o 42 diwrnod petai ei blaid yntau’n ennill yr etholiad cyffredinol San Steffan nesaf. I ddweud y gwir nid yw Cameron wedi rhoi’r gefnogaeth lwyr i benderfyniad Davis y buasai dyn yn ei ddisgwyl. Oes ‘na fwy’n digwydd y tu ôl i’r llenni na dyn yn sefyll dros ei egwyddorion? Os oes, mae’n siŵr o ddod i’r amlwg rhywbryd.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Mae’r sylwad …
“Roedd y cyfan i mi yn ymddangos fel gwastraff arian.”
… yn awgrymu dy fod am roid rhyw fath o bris ar brotest David Davis.
Ai wyt ti’n gwneud yr un peth pan fod Cymdeithas yr Iaith (neu unrhyw grwp arall mi wyt ti’n cefnogi) yn cynnal Protest yn Aberystwyth neu lle bynnag ?