Gwleidyddiaeth ddiddorol Aberystwyth

Mae’n siŵr ddigon fod llygaid y byd ar ragetholiadau ac etholiad arlywyddol y Taleithiau Unedig, ond dylai rhywun gadw rhyw gilolwg ar yr hyn sy’n digwydd yn Aberystwyth? Wrth i’r byd gwleidyddol ddechrau paratoi am yr haf trwy dawelu ychydig ar ôl etholiadau’r cyngor sir ddechrau Mai mae’n ymddangos fod popeth yn digwydd yn y dref. Dechreuodd y cwbwl gydag ymddiswyddiad Eric Griffiths fel cynghorydd sir ward Rheidol oherwydd iddo gael ei arestio a derbyn rhybudd am drosedd rhyw gyda phlentyn o dan oed cysynio. Yn dilyn ei ymddiswyddiad fe bennwyd isetholiad ar gyfer 10 Gorffennaf ac felly fe aeth y pleidiau gwleidyddol ati i ddewis eu hymgeisyddion.

Aled Davies

Plaid Cymru oedd y cyntaf; nos Iau diwethaf fe ddewison nhw y cynghorydd tref Aled Davies fel eu hymgeisydd hwy. Mae Aled yn frodor o Aberystwyth ac yn rheoli busnes yn y dref – bar Y Bae ar y Prom. Ddydd Sadwrn fe gyfarfu’r Lib Demiaid am ddiwrnod cyfan i ddewis eu hymgeisydd hwy ac yn rhyfedd iawn fe ddewison nhw fel ymgeisydd rhywun sy’n treulio’r rhan fwyaf o’r wythnos yn gweithio yn Llundain!

Ond dyw pethau ddim wedi aros yn llonydd ers hynny. Mae’r cynghorydd tref arall oedd yn ceisio am ymgeisyddiaeth y Lib Demiaid wedi cael ei siomi’n fawr gyda’r hyn a ddigwyddodd ac o’r herwydd mae hi wedi ymddiswyddo fel maer, cynghorydd tref ac fel aelod o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol. Mae llun Lorrae Jones-Southgate ar dudalen flaen y Cambrian news heno o dan y pennawd ABER MAYOR QUITS AFTER ELECTION SNUB: Lorrae Jones-Southgate : no longer mayor, councillor or Liberal Democrat Party Member. Yn yr erthygl mae sôn ei bod hi wedi ysgrifennu llythyr chwerw tri thudalen i glerc Cyngor Tref Aberystwyth wrth ymddiswyddo a bod cyfarfod arbennig o’r cyngor tref yn cael ei gynnal nos Lun nesaf i drafod y mater.

Yn y cyfamser bydd yr ymgyrch yr isetholiad yn ward Rheidol yn mynd yn ei blaen. Bydd dewis da o ymgeiswyr yn ôl a ddeallaf i – Aled Davies dros Blaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur, Annibynnol, a’r Ceidwadwyr os lwyddan nhw i ddod o hyd i ddeg o bobol i’w henwebu. Roedd gan y Ceidwadwyr gerbyd ar y Prom ddydd Sadwrn diwethaf yn annog unrhyw un o ward Rheidol i arwyddo papur enwebu eu hymgeisydd.

Felly mae’n ymddangos y bydd yn rhaid dewis ymgeisydd ar gyfer yr isetholiad cyngor tref cyn bo hir a pharatoi ar gyfer ail isetholiad o fewn ychydig wythnosau. Dwi’n rhoi’r bai am hyn i gyd ar y Dem Rhyddiaid!

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Gwleidyddiaeth ddiddorol Aberystwyth

  • Yn ôl a ddeallaf i y drefn yw os oes sedd wag ar gyngor cymuned neu dref mae’n rhaid i’r clerc hysbysu hyn yn gyhoeddus. O fewn pedwar diwrnod ar ddeg i gyhoeddi’r hysbysiad mae gan drigolion yr ardal etholiadol hawl i wneud cais am etholiad – rhaid i 10 o etholwyr wneud y cais hwnnw. Os nad oes cais am etholiad yn digwydd o fewn yr amser penodedig mae hawl gan y cyngor gyfethol. Fel arfer bydd yn rhaid i hyn ddigwydd o fewn 60 diwrnod o ddydiad cyhoeddi’r hysbysiad fod sedd yn wag. Os yw’r sedd yn dod yn wag o fewn chwe mis i’r etholiadau mae hawl gan y cyngor lenwi trwy gyfethol tan yr etholiadau.

    O ystyried y berw gwleidyddol yn Aberystwyth a ward Rheidol yn arbennig dwi ddim yn dychmygu y caiff y cyngor gyfethol y tro hwn!

  • A oes angen is-etholiad ar gyfer cyngor tref?

    Onid cyf-ethol yw’r norm pan fo lle gwag yn codi a gyfer cynghorydd tref?

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>