Dechrau’r wythnos daeth cadarnhad fod ein llety yn iawn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ac fe ddechreuodd cyffro lenwi fy meddwl. Rydyn ni’n bwriadu aros mewn neuadd breswyl sydd yn agos at faes yr eisteddfod. Mae’n ddigon agos i mi ystyried ymweld yn fwy aml na fydda i fel arfer. Hynny yw os ydw i wedi deall y disgrifiad ar wefan yr Eisteddfod yn iawn. Gyda’r maes mor agos â hyn i ganol y ddinas fe ddylai fod yn dipyn o sbort. Rydw i’n cofio Eisteddfod 1978 ac roedd honno’n braf, er bod y maes ei hun ar gyrion y ddinas ym Mhentwyn.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael