Isetholiad Rhediol, Aberystwyth

Fflatiau Trefechan, Aberystwyth

Mae’r ymgyrch wedi dechrau mewn gwirionedd yn yr isetholiad cyngor sir yn ward Rheidol yn Aberystwyth. Fel y gŵyr pawb bellach fe ymddiswyddodd cynghorydd Democrataidd Rhyddfrydol y ward o fewn mis i’w ethol ar ôl iddo gael ei arestio gan yr heddlu a derbyn rhybudd.

Mae unrhyw isetholiad yn gynhyrfus wrth gwrs, ond yng Ngheredigion mae’r cyngor wedi rannu bellach rhwng 19 o gynghorwyr Plaid Cymru a 22 o gynghorwyr ‘Annibynnol’, Rhyddfrydol a Llafur sy’n ffurfio’r glymblaid sy’n rhedeg y cyngor. Felly gallai newid o un sedd fod yn arwyddocaol iawn.

Neithiwr bu aelodau Plaid Cymru allan ar y stwmp yn dosbarthu taflenni yn y ward ac fe lwyddwyd i gyrraedd bob tŷ bron. Mae’n bwysig i’r neges gael ei throsglwyddo gan fod gan y cyn-gynghorydd bleidlais bersonol sylweddol ac mae’n gwbl bosib y gallai Plaid Cymru ei chipio gyda gwaith caled a chynllunio manwl.

Yn yr etholiad ddechrau Mai roedd gan y Dem Rhyddiaid 490 a Phlaid Cymru 197. Nawr dwi’n gwybod fod hynny’n swnio fel rhiw rhy serth i’w dringo i’r top, ond mae’n bosib y bydd amgylchiadau arbennig yr isetholiad – a hynny o fewn mis i’r etholiad blaenorol – olygu y gellir cau’r bwlch hwnnw a dringo’r rhiw (os caf i gymysgu fy nghymariaethau).

Bydd yn rhaid disgwyl tan 10 Gorffennaf i weld beth a ddigwydd – dyna’r dyddiad ar gyfer yr isetholiad.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Isetholiad Rhediol, Aberystwyth

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>